– Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
Symudwn ymlaen at eitem 8 ar yr agenda, sef y ddadl ar weithio gyda chymunedau i greu amgylcheddau lleol gwell, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6211 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd bywyd pobl ac i'w lles. Rwyf eisiau tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng llawer o faterion amgylcheddol lleol sy'n cyfuno i wneud lleoedd yn ddigalon ac yn afiach. Gall y materion hyn gael effaith hefyd ar gydlynu cymunedol, rhagolygon buddsoddi a’r gallu ar gyfer buddsoddiant a’r gallu i gael gafael ar wasanaethau.
Yn y gorffennol, rydym wedi mynd i'r afael â dulliau gwael o reoli gwastraff, sbwriel, tipio anghyfreithlon, graffiti, baw cŵn, ansawdd gwael yr aer, sŵn, llifogydd lleol, ynghyd â'r angen am fannau gwyrdd a choed trefol, a'r angen i ailgylchu’n well fel materion unigol. Fodd bynnag, mae'r cysylltiadau rhyngddyn nhw i gyd yn amlwg, ac mae pobl mewn cymunedau ledled Cymru yn dioddef eu heffeithiau cyfunol. Mewn rhai meysydd, megis rheoli gwastraff ac ailgylchu, rydym yn gwneud cynnydd rhagorol. Cymru sydd yn arwain y DU ac mae'n bedwerydd yn Ewrop o ran perfformiad ailgylchu. Mae’r cyflawniad hwn o ganlyniad i ymgysylltu’n effeithiol â'r cyhoedd ac, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae ailgylchu yn gwbl naturiol erbyn hyn. Er hynny, mae angen i bawb ailgylchu, sy'n golygu darganfod sut i ddylanwadu ar y bobl nad ydyn nhw’n gwneud hynny ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yn fanylach yr agweddau ar newid ymddygiad wrth ymdrin â hyn a phroblemau amgylcheddol lleol eraill.
Rwyf wedi clywed y gwahanol alwadau i wahardd rhai cynwysyddion bwyd neu ddiodydd penodol, gweithredu ardollau, neu gyflwyno system cael arian yn ôl wrth ddychwelyd cynhwysyddion diodydd. Rwy’n bwriadu edrych ar hyn yn gyffredinol wrth i ni adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, gan nad wyf yn dymuno defnyddio atebion tameidiog. Rwyf wedi gofyn am astudiaeth ar y potensial ar gyfer deddfwriaeth newydd i i ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yng Nghymru, i wneud cynhyrchwyr cynhyrchion a deunydd pecynnu yn fwy atebol yn ariannol am y gwaith rheoli gwastraff diwedd oes, gan gynnwys sbwriel. O ran cwpanau papur cludfwyd, rydym yn archwilio gyda’r diwydiant diodydd beth arall y gellir ei wneud i ailgylchu cwpanau yng Nghymru, gan gynnwys darparu biniau ailgylchu a'r potensial i’r cwpanau gael eu hailgynllunio.
Rydym i gyd yn cydnabod y manteision o gael strydoedd glân, mannau gwyrdd tawel, coed trefol ac aer glân. Fodd bynnag, mewn rhai cymunedau, mae amodau o'r fath yn wahanol iawn i brofiad cyfredol pobl. Gwyddom o'n dadl fis Mehefin diwethaf cymaint o niwed a all ddod o lygredd aer. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob safbwynt bosibl, gan gynnwys cynlluniau gweithredu cenedlaethol a lleol, mesurau trafnidiaeth, cynllunio trefol a phlannu coed. Mae fy swyddogion yn ymgysylltu â chydweithwyr trafnidiaeth ac iechyd ar fanteision lluosog teithio llesol, yn arbennig ei gyfraniad at ostyngiad mewn llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae datblygiadau ceir trydan a gwell trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn fesurau pwysig.
Roedd ein hymgynghoriad diweddar ar ansawdd aer a rheoli sŵn lleol yn gofyn am atebion i gwestiynau pwysig ynglŷn â sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion hyn yn fwy effeithiol drwy bethau fel gwell trefniadau adrodd, gweithredu mwy integredig a defnyddio adnoddau mewn modd mwy cydweithredol ac effeithiol. Byddaf yn cyhoeddi datganiad i Aelodau'r Cynulliad ar ganlyniad yr ymgynghoriad cyn diwedd mis Mawrth, gan esbonio sut y byddwn yn newid y system reoli ansawdd aer a sŵn lleol yng Nghymru yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd.
Yna ceir y pethau hynny y mae pobl yn eu gweld bob dydd: baw cŵn, sbwriel, tipio anghyfreithlon a dulliau gwael o drin gwastraff, sy'n dinistrio’r balchder sydd gan bobl yn y cymunedau lle maen nhw’n byw, a’r meddwl sydd ganddyn nhw ohonynt. Mae rhai trigolion yn bodoli mewn rhyw fath o barlys, yn methu â gweld unrhyw bwynt mewn ceisio gwella’r man lle maen nhw’n byw, ac yn aml yn dioddef effeithiau andwyol ar eu hiechyd. Mae hefyd yn amlwg y gall y problemau hyn arwain at ymddygiad mwy gwrthgymdeithasol a throsedd. Rwy'n arbennig o awyddus i weld y drosedd tipio anghyfreithlon yn cael ei thrin yn fwy effeithlon ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae pobl sy'n byw mewn amgylchedd o ansawdd gwael yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder ac iselder drwy aros yn niogelwch cymharol eu cartrefi i osgoi strydoedd budr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o beidio â chael digon o ymarfer corff ac o ddioddef problemau iechyd fel diabetes, trawiad ar y galon a strôc.
Mae plant yn dioddef, hefyd, oherwydd ddiffyg lleoedd glân, diogel i chwarae y tu allan. Dyma lle y mae mynediad at fannau gwyrdd a llwybrau teithio llesol mor bwysig, ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r rheiny hefyd gael eu cadw yn rhydd o sbwriel a thipio anghyfreithlon neu, yn syml, ni fydd pobl yn eu defnyddio. Mae mannau gwyrdd a choed hefyd yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â llifogydd lleol, aer o ansawdd gwael a sŵn. Mae hyn yn enghraifft dda o’r ffaith mai’r atebion gorau a mwyaf cost-effeithiol i faterion amgylchedd lleol yw'r rhai sy'n mynd i'r afael â mwy nag un broblem. Mae grant refeniw unigol fy adran i, i awdurdodau lleol, wedi'i gynllunio'n benodol i annog cyflawni buddion lluosog o'r fath.
Mae effaith amgylchedd o ansawdd gwael ar economi leol yn glir. Mae isadeiledd yn dioddef ac mae cyflwr gwael cyffredinol lle yn atal buddsoddi. Ceir costau hefyd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau glanhau cyson gan awdurdodau lleol, sy’n defnyddio cronfeydd arian prin. Felly, mae'n rhaid i'r angen i atal sbarduno’r camau a gymerwn. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg na all llywodraeth genedlaethol na lleol fod yn effeithiol heb gyfranogiad unigolion a chymunedau.
Gallwn, wrth gwrs, geisio cryfhau mesurau deddfwriaethol a rheoleiddio ac rwyf bob amser yn barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Fodd bynnag, fel y mae awdurdodau lleol yn aml yn ein hatgoffa, mae deddfwriaeth yn costio arian i’w gweinyddu a’i gorfodi. Mae atal cynnar effeithiol bob amser yn well na cheisio casglu dirwyon gan bobl nad ydyn nhw bob amser yn gallu eu fforddio. Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 newydd yn ddeddfwriaeth o fath gwahanol, er hyn, sy’n ein hannog i ganolbwyntio ar atal, i gynnwys pobl mewn mesurau sydd wedi'u hintegreiddio'n dda a chydweithredu ar draws sefydliadau wrth i ni weithio i gyrraedd atebion cynaliadwy hirdymor.
Bydd cydweithredu ar draws pob sector yn hanfodol i atal effeithiol, gan gynnwys y trydydd sector, tirfeddianwyr a busnesau lleol, sydd â budd personol mewn gwella amodau amgylchedd lleol. Mae problemau yn codi mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol ac, ym mhob lle, mae’r bobl sy'n byw ac yn gweithio yno yn hanfodol i ddatblygu atebion lleol effeithiol. Rwy’n credu bod pobl yn cael eu dylanwadu’n gryfach, yn ôl pob tebyg, gan farn eu cyd-ddinasyddion nag y cânt gan y Llywodraeth. Mae angen i ni helpu dinasyddion gofalgar i ddod o hyd i lais a llwyfan i ddylanwadu mewn ffyrdd ymarferol ar ymddygiad pobl eraill yn eu hardaloedd.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd gwraig yn y gogledd ataf, sydd wedi bod yn ymgyrchydd gweithredol yn erbyn sbwriel am flynyddoedd lawer, i ofyn i bwyntiau gael eu hychwanegu at drwyddedau gyrru pobl sy'n caniatáu sbwriel i gael ei daflu allan o’u ceir. Yn fy ymateb iddi hi, eglurais nad oes gennym yng Nghymru y pwerau i wneud i hynny ddigwydd, er y byddaf yn codi ei syniad gyda DEFRA ac Adran Drafnidiaeth y DU. Yn ei llythyr ataf i, roedd y wraig hon yn siarad yn angerddol iawn am ei gwaith casglu sbwriel gyda phlant ac am yr angen am fesurau cryfach i atal y broblem. Gwnaeth ei geiriau argraff gref iawn arnaf. Meddai, ‘Onid oes modd i ni weithio gyda'n gilydd a gwneud iddo ddigwydd?’
Rydym i gyd yn adnabod pobl fel y wraig hon ym mhob cymuned—yn barod i wneud rhywbeth ac yn benderfynol. Os gallwn ni eu helpu i gydweithio â'r Llywodraeth, yn genedlaethol ac yn lleol, i fynd i'r afael â'r problemau sy’n amharu ar eu bywydau, gyda’r cymorth a’r anogaeth iawn, gallan nhw fod yn rym cryfach fyth er lles ein cymunedau.
Wrth gwrs, nid yw pob sbwriel o ganlyniad i ymddygiad grŵp gwrthgymdeithasol o bobl. Gall hefyd fod o ganlyniad i drin gwastraff ac ailgylchu yn ddiofal gan drigolion neu gan y rhai hynny sy'n ei gasglu a’i gludo. Felly, mae angen i bawb fod yn ofalus ac yn ystyriol.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n awyddus iawn i glywed syniadau adeiladol pob Aelod yn y Siambr ar unrhyw fesurau a fydd yn helpu i feithrin balchder mewn lle a grymuso pobl a sefydliadau i sicrhau gwelliannau gwirioneddol yn 2017. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ein bod yn croesawu'r ddadl hon ac y byddwn yn cefnogi'r cynnig? O ran y pwyslais y bydd gennym yr wythnos hon, yn fras, ar faterion gwella ansawdd bywyd, ynghyd â'n dadl yfory—y ddadl plaid leiafrifol y mae’r Ceidwadwyr wedi’i nodi ar yr amgylchedd trefol—rwy’n credu ei bod yn iawn ein bod yn treulio llawer o amser ar y materion ansawdd bywyd hyn. Rwy’n croesawu'r ymagwedd o bwysleisio'r angen am amrywiaeth o asiantaethau a chyfranogwyr i gyfuno ac, yn anad dim, cyfranogiad y dinasyddion, sydd hefyd—ni wnaethom siarad â'n gilydd pan gyflwynwyd y cynigion hyn, ond mae'n ymddangos bod galwad am gyfranogiad cymdogaeth a dinasyddion yn allweddol i'n dadl hefyd.
Roeddwn yn falch hefyd o glywed am y datganiad sydd i ddod ar yr ymatebion yr ydych chi wedi eu cael i’r strategaeth ansawdd aer a llygredd sŵn hefyd. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod angen diweddaru'r strategaeth honno. Roedd y ddogfen ymgynghori hon a gyflwynwyd gennych, rwy’n credu, yn un ddiddorol ac roedd llawer o bethau ynddi a oedd yn dangos ffordd o symud ymlaen a fyddai’n cael cefnogaeth ar draws y Cynulliad hwn.
Beth bynnag, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ansawdd yr aer ac yn wir i danlinellu’r hyn yr wyf newydd ei ddweud, mae’r angen i wella ansawdd yr aer a gwneud hynny gyda gweithredu ar y cyd rwy’n meddwl yn cael ei dderbyn ar lefel Cymru a lefel y DU. Yn wir, yr hydref diwethaf, galwodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ar Lywodraeth y DU i, ac rwy’n dyfynnu, weithredu nawr i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Credaf fod llawer ohonom bellach yn ei weld felly. Yn wir, y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnodd yr Uchel Lys hefyd nad yw Llywodraeth y DU yn bodloni ei holl ofynion cyfreithiol ar ansawdd yr aer ar hyn o bryd, felly nid wyf yn sôn am Lywodraeth Cymru yn benodol.
Ond fel y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod, a bod yn deg, mae’r sefyllfa yng Nghymru, i ryw raddau, yn adlewyrchu’r sefyllfa yn Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae angen dulliau cyffredin hefyd i sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf ar leihau llygredd.
Dim ond i atgoffa'r Aelodau bod lefelau llygredd yng Nghymru—dwi'n ddefnyddio ffigurau 2015—yn isel ar 204 o ddiwrnodau, yn gymedrol ar 137 o ddiwrnodau, yn uchel ar 16 o ddiwrnodau ac yn uchel iawn ar wyth diwrnod. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod yna lawer o bobl yn ein cymuned sy'n arbennig o agored i niwed, yn enwedig y bobl ifanc a phobl hŷn sy'n fregus. Gall effaith ansawdd aer gwael mewn gwirionedd fod yn sylweddol iawn, iawn. Clywsom, Weinidog, yn y pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, rywfaint o dystiolaeth bwerus iawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac rwy’n eu cymeradwyo am y gwaith y maen nhw’n ei wneud—mae’n drylwyr iawn, ac rwy’n meddwl bod ansawdd y dystiolaeth a glywsom ganddyn nhw, a hefyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, yn uchel iawn, iawn ac yn ddefnyddiol iawn.
Felly, mae angen i ni ganolbwyntio ar hyn, o ran ei effaith ar ein pobl fwyaf agored i niwed ac, fel y nodwyd gan y Gweinidog, pobl yn rhai o'n hardaloedd tlotaf. Daw hynny â mi at ein gwelliant, sy'n canolbwyntio ar y 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer. Mae’r ffordd y mae'r rhain yn cael eu rheoli yn rhan o'r ymgynghoriad, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed rhai o safbwyntiau cychwynnol y Gweinidog ar hyn, efallai.
O'r 40 o ardaloedd rheoli ansawdd aer hynny, dim ond pedwar sydd wedi cael eu dirymu erioed, ac mae'r rhan fwyaf wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Felly, rwy’n credu bod angen i ni gadw hynny mewn cof. Dydw i ddim yn dweud bod gwelliant ac yna dirymu’r gorchmynion hyn yn arbennig o hawdd—maent yn heriol iawn ac yn aml mae materion dwfn o ran seilwaith ynghlwm â nhw—ond rwy’n credu bod angen i ni ofyn i’n hunain os mai dim ond 10 y cant sydd erioed wedi cael eu dirymu, a oedd y cynlluniau gweithredu a roddwyd ar waith gennym yn ddigonol.
Rwyf hefyd yn credu—mae hyn yn rhan o'r ymgynghoriad—bod angen seilio strategaeth yn fwy ar ddull cyffredinol o fynd i’r afael ag ansawdd yr aer, gan fod y rhan fwyaf o'r niwed, mewn gwirionedd, yn digwydd y tu allan i'r ardaloedd risg uchel. Ond rwy'n credu i ategu hynny, bod angen gwaith dwys yn ogystal â’r dull cyffredinol hwnnw yn yr ardaloedd risg uchel, oherwydd mae hynny wir yn hanfodol er mwyn eu gweld yn gwella. Credaf mai un dull fyddai rhestru'r camau ymarferol gofynnol sydd eu hangen i wella ansawdd yr aer yn yr ardaloedd risg uchel. Weithiau, mae angen gwneud rhai dewisiadau eithaf pendant, ond rwy’n meddwl y dylent o leiaf fod ar yr agenda er mwyn i ni allu cael dadl iawn ac ymgysylltu’n effeithiol â dinasyddion.
A gaf i orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio at yr enghraifft Norwyaidd ddiweddar yn Oslo, lle byddant yn cau traffig diesel i Oslo pan fydd y lefelau llygredd yn codi'n uwch na safonau derbyniol? Nid wyf yn dweud y dylem ddilyn hynny, o reidrwydd, ond mae honno'n enghraifft o gymryd camau effeithiol iawn, iawn. Diolch.
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ddadl hon, ac rwy’n croesawu hefyd gynnwys araith Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu y gallai’r cynnig fod wedi cynnwys ychydig mwy o fanylion, ac rwy'n credu bod gan gynnig y Ceidwadwyr yfory, i fod yn deg, fwy o fanylion a mwy o syniadau, felly byddwn yn cefnogi’r ddau—gadewch i ni gael consensws i ddatblygu hyn .
Rwyf eisiau dechrau yn lle y gorffennodd David Melding, mewn gwirionedd, ar lygredd aer, a chredaf ei fod yn ei ddisgrifio yn gywir, fel y byddwn innau, fel argyfwng iechyd cyhoeddus erbyn hyn yng nghyd-destun Cymru. Cawsom ddiwrnod arall heddiw pan ddywedodd Maer Llundain ei fod yn cynghori pobl i beidio â gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Pan eich bod yn meddwl am y peth, y math hwnnw o argyfwng ynghylch yr amgylchedd a greodd y Ddeddf Aer Glân yn ôl yn y 1950au, a wnaeth lanhau Llundain. Ni wnaeth lanhau'r gymuned yr oeddwn i’n byw ynddi, oherwydd roedd gennym ni’r gweithfeydd golosg, a oedd yn creu y tanwydd di-fwg. Felly, mae materion i'w ystyried yn y fan hon, ac mae'n aml yn ardal gyfoethocach yn erbyn ardal dlotach o ran cyflawni ansawdd aer. Felly, mae cyfiawnder cymdeithasol yn rhywbeth y mae angen inni gofio amdano yn hyn o beth hefyd.
Nawr, yn ei sylwadau agoriadol, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet fanteision y dull gwirfoddol, neu yn hytrach cael pobl i weithio gyda'i gilydd ac, wrth gwrs, siaradodd am y gost o reoleiddio. Ond mae’n hanfodol hefyd, rwy’n meddwl, pan fo gennym reoliadau, bod yn rhaid i ni fynnu a sicrhau bod y rheoliadau hynny yn cael eu rhoi ar waith. Ac felly nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog heddiw, am orsaf bŵer Aberddawan.
Canfuwyd bod yr orsaf bŵer honno yn gollwng mwy, mewn ffigyrau uchel—dwywaith yn fwy, rwy’n credu—na’r lefelau allyriadau a ganiateir ar gyfer nitrogen deuocsid yn ôl ym mis Medi. A chafodd Llywodraeth y DU ei chyfarwyddo gan Lys Cyfiawnder Ewrop i gymryd camau gweithredu. Nawr, nid Llywodraeth y DU yw’r rheoleiddiwr yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Ac felly dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn gynharach heddiw eu bod wedi ysgrifennu at y cwmni, yn mynnu rhyw fath o gamau gweithredu, a bod yn rhaid iddynt ymateb i'r llythyr erbyn 17 Chwefror. Ac roeddwn i’n meddwl, ‘Wel, roedd y penderfyniad ym mis Medi. Mae ganddyn nhw lythyr y mae'n rhaid iddyn nhw ymateb iddo erbyn 17 Chwefror. A oes unrhyw gysylltiad yn y fan hon â’r ffaith fy mod i wedi ei godi ar 17 Ionawr, a’u bod nhw wedi cael mis i ymateb iddo, tybed?’ Tybed beth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ei wneud yn y fan yma. Yn sicr nid yw wedi cymryd unrhyw gamau ynghylch y drwydded. Mae hynny'n sicr yn golygu ein bod yn dal â gormod o allyriadau o'r orsaf bŵer, fel y cadarnhaodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac mae hynny’n cyfrannu, fel y dywedodd David Melding, at y dystiolaeth bwerus iawn honno o waith manwl gywir gyda thystiolaeth dda a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod mater gronynnol yn achosi 1,300 o farwolaethau cynnar y gellid eu hosgoi yng Nghymru, a bod nitrogen deuocsid ei hun yn gyfrifol am 1,100 o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn flynyddol. Ac os ydym ni’n edrych, felly, ar swyddogaeth rheoleiddio wrth fynd i’r afael â gollyngiadau a nwyon tŷ gwydr a newid yn yr hinsawdd, yna yn amlwg mae angen inni weld mwy o weithredu gan y Llywodraeth ac, os oes angen, cyfarwyddo sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd y camau cywir hynny i ddiogelu ein hamgylchedd ac i ddiogelu iechyd yng Nghymru. Nid yw’n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei weld trwy'r ffenestr yn unig, mae'n ymwneud â’r hyn yr ydym yn ei anadlu a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Felly, mae hon yn broblem wirioneddol i weithredu arni gan y Llywodraeth hon ar Aberddawan a'r cwestiwn ehangach o lygredd aer, y gwnaeth David Melding ymdrin ag ef.
Hoffwn hefyd weld, gan wneud cysylltiad â’r amgylchedd yn fwy lleol, mwy o waith ar swyddogaeth coed a phlannu coed mewn amgylcheddau trefol i ymdrin â hyn. Mae digon o dystiolaeth, eto a glywyd gan y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ynghylch sut y gall coed—os ydyn nhw'n cael eu plannu’n gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, gall plannu’r math anghywir o goed yn y modd anghywir ddal gronynnau mewn amgylchedd trefol, ond os ydynt yn cael eu plannu’n gywir, maent mewn gwirionedd yn sgwrio gronynnau a nwyon yn naturiol allan o'r amgylchedd lleol. Ac, wrth gwrs, maent yn edrych yn dda hefyd. Maen nhw’n creu’r ymdeimlad o lesiant, maen nhw’n ei gwneud yn haws, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, i bobl fynd allan am dro a theimlo eu bod yn rhan o amgylchedd y maent eisiau bod yn rhan ohono, ac yna, yn ei dro, yn ei barchu. Felly, mae pawb ar eu hennill ym mhob ffordd pan fyddwch yn plannu coed: rydych chi’n glanhau’r awyr, ond rydych hefyd yn gwneud yr amgylchedd yn well i’r rhai sy’n ei ddefnyddio.
Ac mae'n bwysig pwysleisio bod cysylltiad gwirioneddol rhwng amddifadedd, sbwriel, troseddu a beth mae pobl yn ei feddwl am eu hamgylchedd trefol. Canfu adroddiad DEFRA yn 2014 bod 28 y cant o safleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn is na'r safon dderbyniol ar gyfer sbwriel, ac mae hynny naw gwaith yn waeth na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ac mae'n gylch dieflig. Rydym ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi’n dechrau gweld yr holl gwpanau a’r holl fwyd brys yn cronni ar y darn gwyrdd lleol y tu allan i'r tai, yna mae pobl yn fwy amharod i drin hwnnw â pharch ac mae'n denu sbwriel. Mae'n fath o rym magnetig i ddenu sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei dro.
Rwy’n croesawu’n fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am archwilio'r angen am reoleiddio ychwanegol o ran plastig, gwydr a chynlluniau arian ar gadw ar gyfer caniau yng Nghymru. Rwy’n credu bod gwir angen i ni fynd ar y trywydd hwnnw. Bydd unrhyw un sydd wedi glanhau traeth neu amgylchedd lleol yn gwybod bod yr eitemau hyn yn ymddangos dro ar ôl tro. Ac yn yr Almaen, lle maent wedi cyflwyno system arian ar gadw gorfodol un ffordd, mae 98.5 y cant o boteli y gellid eu hail-lenwi yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddwyr. Ni arweiniodd y ffordd ar fagiau plastig, a gallwn arwain y ffordd ar boteli plastig hefyd.
A gaf i ymuno â Simon Thomas a David Melding i groesawu'r ddadl hon? Mae'r amgylchedd y mae pobl yn byw ynddo yn hynod o bwysig iddyn nhw. Mae cyflwr ein hamgylchedd yn bwysig ar gyfer sut yr ydym yn byw nawr a’r etifeddiaeth y byddwn yn ei gadael i genedlaethau'r dyfodol. Er bod Brexit yn dominyddu trafodaethau’r Cynulliad, cyflwr yr amgylchedd y mae fy etholwyr i yn sôn amdano wrthyf i—nid dim ond mewn cymorthfeydd, ond pan fyddaf yn cerdded i lawr y ffordd, yn mynd i fy siopau lleol, yn yr archfarchnad, yn y clwb ac ar y maes chwarae. Cyflwr yr amgylchedd maen nhw’n sôn amdano. Bydd pobl yn aml yn tynnu fy sylw pan fydd pethau wedi cael eu gollwng, pan fo baw cŵn ac amrywiaeth helaeth o bethau eraill. Dyna, mewn gwirionedd, yw’r pryderon—sbwriel, tipio anghyfreithlon, gall fod yn sŵn, yn enwedig pan fydd pobl yn gwneud hynny yn hwyr yn y nos. Mae canclwm yn fy etholaeth i, sy'n creu problem enfawr nad oes gan bawb yr anfantais o fod ag ef.
Tai gwag tymor hir ac eiddo gwag—adeiladau sydd wedi cael eu gadael nes eu bod yn disgyn i lawr. A fyddech chi'n hoffi byw drws nesaf i dŷ a oedd wedi cael ei adael yn wag am 10 neu 15 mlynedd, gyda gordyfiant, yn ôl pob tebyg, o bryd bynnag y gadawyd y tai hynny yn wag dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf? Baw cŵn, sy’n broblem fythol—er gwaethaf gwaith caled cyngor Abertawe, sydd wedi gwneud gwaith rhagorol o ran cael biniau baw cŵn, rwyf yn aml yn poeni na all cŵn ddarllen yn dda iawn a’u bod yn methu â rhoi eu llanast yn y biniau, ac mae’n amlwg nad yw eu perchnogion yn gallu darllen o gwbl. Ac wedyn ansawdd yr aer.
Dechreuaf gydag un o straeon llwyddiant mawr y blynyddoedd diwethaf—ailgylchu a’r gostyngiad mewn tirlenwi. Yn ôl ffigurau a welais yn ddiweddar, mae gostyngiad o dros 70 y cant wedi bod yn y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi gan awdurdodau lleol o’i gymharu â phan oedd hynny ar ei anterth. Mae Llywodraeth Lafur Cymru, a'r rhan fwyaf o fy etholwyr i, a minnau eisiau gweld Cymru ddiwastraff. Ni fydd hynny'n bosibl oherwydd bydd gennych bob amser rywfaint o wastraff gweddilliol, ond mae angen i ni symud tuag at cyn lleied o wastraff ag y gallwn mewn gwirionedd. Mae cenedl ddiwastraff yn uchelgais gwych. Mae cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu'n fwy nag mewn unrhyw le arall ledled y DU yn ystod y degawd diwethaf, ac mae Cymru bellach yn arwain y DU o ran ailgylchu gwastraff trefol. Pe byddem yn wlad ar ein pennau ein hunain, byddem yn bedwerydd yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dylai llawer o'r clod am hyn fynd i awdurdodau lleol—eu harweinwyr cyngor sy’n ei hyrwyddo, a'r rhai hynny sy'n gweithio ym maes sbwriel ac ailgylchu sy'n gwneud iddo ddigwydd. Mae problem troseddau gwastraff—neu dipio anghyfreithlon, fel y caiff ei alw gan amlaf—yn gost sylweddol i awdurdodau lleol. Yn anffodus, mae pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn mynd i rai o'r lleoedd mwyaf anhygyrch—i lawr lonydd bach ac ati—sydd hefyd yn creu problem enfawr i’w gasglu wedyn. Gallai fod yn beryglus i'r amgylchedd, gallai fygwth iechyd pobl, gallai hefyd fod yn beryglus i anifeiliaid, ond mae bob amser yn hyll—ble bynnag y mae, mae’n hyll—pa un a yw'n beryglus ai peidio, mae'n hyll ac mae'n broblem. Rwyf bob amser yn gofyn y cwestiwn, ‘A fyddwn i'n hoffi byw mewn ardal lle caiff gwastraff sylweddol ei daflu?’ Os mai fy ateb i yw ‘na’, mae'n rhaid mai 'na' fyddai ateb gweddill fy etholwyr hefyd.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi defnyddio pwerau newydd i gryfhau gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gymryd camau cyflymach a mwy effeithiol i fynd i'r afael â’r gyfran fach iawn o weithredwyr anghyfreithlon sy’n perfformio’n wael yn y diwydiant gwastraff. Rydym yn edrych ar y Bil presennol sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad, a bydd hwnnw, gobeithio, gydag awgrymiadau gan y Gweinidog, Mark Drakeford, yn golygu bod pobl sydd yn sefydlu eu safleoedd anghyfreithlon eu hunain yn gorfod talu ddwywaith, a dylai hynny roi diwedd ar y mater.
Mae tipio anghyfreithlon yn bla ar gymunedau. Ni ellir cyflwyno dirwy cosb benodedig yn ddigon cyflym yn fy marn i. Dal pobl a rhoi dirwy iddyn nhw, yn hytrach na gorfod mynd drwy'r broses gyfan o fynd â nhw i'r llys. Gadewch i ni gael dirwy cosb benodedig. Gadewch i ni ddal y tipwyr anghyfreithlon hyn. Nid dim ond pobl yn dympio ambell i fag yw hyn—weithiau mae'r tipio anghyfreithlon wedi’i drefnu pan fo llwythi lori yn cael eu dympio, yn aml mewn ardaloedd lle nad oes llawer iawn o dai o'u cwmpas, lle y mae pobl yn ceisio osgoi talu pris i gael gwared ar y gwastraff sydd ganddyn nhw.
Rwyf am ymuno â phawb arall yn awr drwy sôn am dagfeydd traffig, allyriadau carbon a chyflwr yr aer. Effeithir ar rai cymunedau, fel Hafod yn Abertawe, gan lefelau uchel o lygredd o drafnidiaeth ffyrdd. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i'w helpu i weithredu eu cyfrifoldebau rheoli ansawdd aer lleol, ac i dargedu ardaloedd sy’n achosi problemau drwy gynlluniau gweithredu ar ansawdd aer lleol. Weithiau, gellir cyflawni hyn drwy gael mwy o bobl i gerdded a beicio. Ar adegau eraill, mae angen ffordd osgoi arnom er mwyn sicrhau nad yw ceir yn llonydd neu'n symud yn araf drwy ein cymunedau. Ceir prif ffyrdd—mae ffordd Castell-nedd sy’n mynd trwy Hafod yn brif ffordd—lle mae traffig yn symud yn araf ac sydd mewn cwm lle y mae’r aer yn symud yn y fath fodd fel bo’r gronynnau yn cael eu cadw’n agos at y ddaear. Mae yna rai pobl a fydd yn dweud nad ffordd ychwanegol yw'r ateb. Wel, rwy’n croesawu ffordd ddosbarthu Morfa sy’n agor yn fuan, ac a fydd yn lleihau traffig yn yr Hafod. I'r rhai hynny nad ydyn nhw’n credu mewn gwaith ffordd o'r fath, dyma ddau awgrym: ceisiwch fyw yno a gofyn i'r bobl sydd yn byw yno. Nid ffyrdd newydd yw'r ateb ym mhob man, ond ni ellir eu diystyru fel dewis.
Yn olaf, fel rhywun a aned ac a dreuliodd ei fywyd cynnar yng nghwm isaf Abertawe pan allai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ffilm a oedd eisiau dangos tirwedd drefol wedi’i chreithio gan ddiwydiant, rwyf eisiau gadael gwell amgylchedd i’m plant.
Mae'r ddadl heddiw yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, felly byddaf yn canolbwyntio ar un agwedd, sef ansawdd yr aer. Mae ansawdd yr aer yn bwysig i bawb, felly mae'n iawn ein bod ni’n cymryd pob cam y gallwn yn y Cynulliad i’w wella. Rydym ni yn UKIP yn cefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n mynd i'r afael â'r mater fod gan Lywodraeth Cymru y gallu i weithredu Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, mewn lleoedd lle y mae ansawdd aer yn arbennig o wael, ond dim ond mesurau dros dro yw’r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hyn i fod, tan fydd ansawdd yr aer yn gwella, a chaiff yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu dirymu bryd hynny. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, fel yr ydym wedi clywed gan David Melding, dim ond pedwar allan o 42 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer sydd erioed wedi’u dirymu ac, mewn dau o'r achosion hynny, cawsant eu disodli’n gyflym gan Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eraill yn cwmpasu’r ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Felly, mewn gwirionedd, dim ond dau allan o 42 sydd erioed wedi’u dirymu i bob pwrpas a phrin y gellir galw llwyddiant o lai na 5 y cant yn chwa o awyr iach.
Felly, beth allwn ni ei wneud i wella ansawdd yr aer? Wel, byddai’r problemau a all achosi dirywiad yn ansawdd yr aer gynnwys cynyddu nifer y ffaniau echdynnu mewn ardal gymharol fach. Defnyddir y rhain yn aml mewn safleoedd lle y ceir ceginau. Ond pan fyddaf yn ystyried sut y mae dwy ardal ychydig y tu allan i ganol dinas Caerdydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar, hynny yw Cowbridge Road yn Nhreganna a Heol y Ddinas yn y Rhath, mae mwy a mwy o drwyddedau wedi’u rhoi i fwytai, caffis a siopau bwyd brys. Mae llawer o'r siopau bwyd cyflym hefyd yn defnyddio cerbydau danfon. Ni all cymaint o ddatblygiadau o’r math yma wneud dim ond gwaethygu ansawdd yr aer yn yr ardaloedd hynny. Felly, un cwestiwn yw: sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu ei chamau gweithredu o ran ansawdd aer wrth ymdrin â chynghorau lleol yn eu swyddogaeth o fod yn awdurdodau trwyddedu a pha mor effeithiol yw'r mesurau hyn?
Ffactor pwysig arall o ran y dirywiad yn ansawdd yr aer yw’r cynnydd mewn tagfeydd traffig. Nawr, rwyf hefyd yn gweld bod nifer o sefydliadau mawr i fod i symud i Sgwâr Canolog Caerdydd o’r maestrefi ymylol, yn benodol Cyllid y Wlad, BBC Cymru a MotoNovo Finance. Nawr, rwy’n gwybod bod lleoedd parcio yn cael eu cyfyngu yn y Sgwâr Canolog, ond rwyf hefyd yn weddol siŵr y bydd llawer o weithwyr o'r sefydliadau hyn, serch hynny, yn dewis gyrru i mewn i'r dref i weithio, gan gynyddu tagfeydd traffig a gwaethygu ansawdd yr aer. Felly, nid yw'r pryderon hyn am ansawdd yr aer wedi gwneud dim i atal datblygiad y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei wthio gan gyngor Llafur, ac mae'n gynllun sydd wedi ei gymeradwyo’n frwd gan Lywodraeth Cymru. Felly, pa mor bwysig, mewn gwirionedd, yw ansawdd yr aer i Lywodraeth Cymru? Pa ystyriaeth a roddir i bryderon am ansawdd yr aer yn y mathau hyn o benderfyniadau cynllunio?
Effaith olaf sylweddol ar ansawdd yr aer yw’r cynnydd yn y cyflenwad tai mewn ardal gymharol lawn, ac eto mae gan Gaerdydd gynllun datblygu lleol, wedi’i lunio gan ei gyngor Llafur, sy'n cynllunio ar gyfer cynnydd mawr mewn adeiladu tai ar y llain las. Bydd hyn yn cael effaith amlwg ar ansawdd yr aer. Felly, pa gamau y gall y Gweinidog eu cymryd i ddiogelu ansawdd yr aer rhag y mathau hyn o gynlluniau datblygu lleol sy’n niweidiol i'r amgylchedd? Diolch.
Rwy'n credu fy mod i’n cytuno â phopeth y mae pawb wedi’i ddweud. Rwy’n credu, ar y mater hwn, ei bod yn bwysig bod gennym gonsensws oherwydd mae mynd i'r afael ag ansawdd yr aer yn bwnc aruthol o bwysig. Nid oes y fath beth â lefelau diogel o ronynnau ac, a dweud y gwir, bydd rhai o'r camau y bydd angen i ni eu cymryd yn ei gwneud yn ofynnol i ni fynd i'r afael â'r modurwr hunangyfiawn, a bydd hynny yn amlwg yn eithaf dadleuol ymhlith rhai pobl yn ein cymuned.
Rwy'n credu bod rhai o'r materion y mae Gareth newydd eu codi yn bwysig iawn, ac er bod cyfiawnhad i gael lle parcio ar gyfer gweithwyr camera y BBC sy'n cario gwerth miloedd o bunnoedd o offer—mae’n rhaid iddyn nhw deithio mewn car—mae'n amlwg nad yw’n wir bod angen i’r rhai sy'n gwneud gwaith desg ddod i ganol y ddinas mewn car. Mae hynny'n rhywbeth sydd angen ei adlewyrchu yng nghynllun datblygu Caerdydd.
Roeddwn i’n dymuno canolbwyntio yn bennaf ar agweddau eraill sydd yn llawer llai dadleuol ond er hynny yn bwysig dros ben. Rwy’n cynrychioli’r etholaeth fwyaf trefol ac adeiledig yng Nghymru, rwy’n credu, yng Nghaerdydd Canolog, ac felly mae creu rhagor o fannau gwyrdd yn gwbl hanfodol i wella ansawdd yr aer. Mae Simon eisoes wedi crybwyll pwysigrwydd coed, a hoffwn innau dynnu sylw at un ffaith, sef y gall un goeden dynnu 26 pwys o garbon deuocsid o'r atmosffer bob blwyddyn, sy'n gyfwerth ag 11,000 o filltiroedd o allyriadau ceir. Mae dwy fil pum cant o droedfeddi sgwâr o laswellt yn rhyddhau digon o ocsigen i deulu o bedwar ei anadlu. Mae'r rhain yn ffigurau pwysig iawn, a dylai hyn ganolbwyntio ein meddyliau ar ein dull o gynllunio trefol, gan fod angen i bob cymuned elwa ar hyn. O ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, os oes gennym fannau gwyrdd, mae'n atal yr effeithiau cynhesu yn sgil arwynebau palmentog, yn adlenwi cyflenwadau dŵr daear, ac yn diogelu llynnoedd a nentydd rhag llygredd dŵr ffo. Mae'n lleihau erydiad pridd—mae gorchudd trwchus o blanhigion a thomwellt yn dal y pridd yn ei le, yn cadw gwaddod i ffwrdd o ddraeniau storm a ffyrdd, ac yn lleihau llifogydd, llithriad tir a stormydd llwch. Mae'r rhain yn faterion hynod bwysig i ni i gyd, ni waeth pa ran o Gymru yr ydym yn byw ynddi.
Bydd gardd dyweirch iach yn amsugno glawiad chwe gwaith yn fwy effeithiol na chae gwenith a phedair gwaith yn well na chae gwair. Rwy’n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn, oherwydd dŵr erbyn hyn yw’r aur newydd; ni allwn oroesi hebddo. Mae mannau gwyrdd yn lleihau straen ac yn rhoi hwb i rychwant sylw plant. Mae ymchwil arall sydd wedi darganfod bod symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio mewn plant yn cael eu lleddfu drwy gysylltiad â natur. Mae cael gwyrddni mewn amgylchedd bob dydd plentyn, hyd yn oed gweld gwyrddni drwy’r ffenestr, yn lleihau eu symptomau ADD. Gan fod hynny yn digwydd fwyfwy ymhlith disgyblion, mae hyn, o bosibl, yn ganfyddiad pwysig iawn ac yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn ein holl ysgolion.
Felly, beth yw'r ysgogiadau y gall y Llywodraeth eu defnyddio i wneud mwy o'r math hwn o beth? Roedd yn ddiddorol i mi gofio’r cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a dyfir yn y gymuned, a lansiwyd yn 2010, rwy’n credu gan y Llywydd, i hyrwyddo, cefnogi ac annog tyfu bwyd yn y gymuned yng Nghymru, ac i wella diogelwch bwyd drwy gynyddu’r cynnyrch garddwriaethol sydd ar gael sydd wedi’i dyfu yn lleol, gan gysylltu pobl â'r gadwyn fwyd, cynyddu nifer y bobl sydd â diddordeb mewn tyfu bwyd, a gwella iechyd a lles yn y broses. Rwy’n cofio bod llawer o brosiectau LEADER ardderchog wedi eu hariannu gan y rhaglen UE flaenorol, a weddnewidiodd rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn wirioneddol, ond na chawsant erioed eu troi’n arfer prif ffrwd i gymunedau difreintiedig eraill, a oedd wir yn gyfle a gollwyd.
Rwy’n cofio, bod rhestrau aros hir ar gyfer rhandiroedd, weithiau, ac maen nhw’n aml yn anhygyrch i bobl heb gar beth bynnag. Felly, mae dod o hyd i dir ar gyfer prosiectau tyfu newydd yn her y mae angen i ni ymdrin â hi, yn fy marn i. Talaf deyrnged i rai o'r sefydliadau a’r cymunedau yng Nghaerdydd sydd wedi helpu i oresgyn yr anawsterau hyn a chael rhagor o bobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain. Mae gennym y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol, sydd â 49 o brosiectau tyfu cymunedol ledled ein dinas. Ac mae gan y prosiect rhandir cymunedol Glanyrafon, sy’n cynnwys, yn rhan annatod ohono, weithgareddau'r Gymdeithas Marchnad Gymunedol, le cynyddol nepell i’r gogledd o Gaerdydd, lle gall pobl ddysgu sut i dyfu bwyd mewn awyrgylch cymdeithasol a chefnogol.
Mae Farm Caerdydd yn broses fapio dan arweiniad y gymuned, sydd wedi nodi dros 400 o fannau cyhoeddus ar gyfer tyfu bwyd a phlanhigion eraill. Rwy'n cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r prosiect Cynefin, a arweiniodd at osod planwyr perlysiau ar Heol Albany, sef canol tref fy etholaeth i ac yn ôl pob tebyg yr amgylchedd mwyaf trefol mewn unrhyw fan, gan nad oes braidd dim mannau gwyrdd yn yr ardal gyfagos. Mae llain o dir a elwir yn ardd gymunedol Mackintosh, hefyd ym Mhlasnewydd, a ddechreuodd ar raddfa fach iawn ac sydd bellach yn datblygu twneli tyfu ac yn helpu i addysgu carfannau cyfan o blant ysgol o ysgolion sy’n jyngl concrid, am o ble mae bwyd yn dod. Mae fy swyddfa i yn gweithio gydag ysgolion yn Llanedeyrn a Phentwyn, sydd, yn wahanol i Adamsdown a Phlasnewydd, yn cynnwys llawer o leiniau sylweddol o dir, ond, hyd yn hyn, nid oes llawer o dyfu yn digwydd arnyn nhw.
Rwy'n falch o ddweud bod un ysgol wedi cytuno i neilltuo darn o'i thir ar gyfer gardd gymunedol. Fy uchelgais yw y bydd pob ysgol yn gwneud rhywbeth tebyg i ysbrydoli pobl yn y gymuned hon sydd â rhannau helaeth ohoni yn wynebu her ariannol i ddechrau tyfu eu cynnyrch eu hunain yn eu gerddi eu hunain, neu mewn mannau cyfun hygyrch. Mae hwn yn bwnc anhygoel o bwysig yn wyneb yr heriau niferus sy’n effeithio ar ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y bydd gennym achos i fyfyrio yn fanwl ar y fantais o droi ein hamgylchedd yn wyrdd yn ein holl gymunedau.
A gaf i sôn yn gyntaf, fel y mae llawer wedi ei wneud, am lygredd aer o ran allyriadau o gerbydau, a pheiriannau diesel yn arbennig, sydd, fel y gwyddom, yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Rwyf wedi crybwyll o'r blaen yn y Siambr fy mod i wedi cwrdd â Calor, fel sefydliad, a siaradodd am newid o diesel i nwy Calor, yn enwedig efallai ar gyfer fflydoedd tacsi, ond gellid cymhwyso hyn yn fwy cyffredinol ac yn ehangach. Gall y gost, mae'n debyg, gael ei hadennill o fewn dwy flynedd—cost y gwaith addasu cychwynnol. Wrth gwrs, mae'n fuddiol iawn i iechyd y cyhoedd, drwy leihau yn fawr cynnwys y gronynnau mewn allyriadau o’r cerbydau hynny. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywfaint am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl am gefnogi’r addasiadau hynny, a allai wneud rhywbeth ymarferol iawn ac amserol iawn i helpu i gyfrannu at leihau'r allyriadau niweidiol iawn hyn, a chyn, efallai, ein bod yn trafod atebion mwy parhaol megis ceir trydan a cherbydau trydan yn fwy cyffredinol.
Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod pa mor gryf y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill a Gweinidogion eraill ar agendâu sy'n bwysig i greu amgylchedd mwy addas ar gerrig drws pobl—y rhai hynny ar rai o'n hystadau cyngor blaenorol a’n hystadau cyngor presennol yng Nghasnewydd, er enghraifft ar ystâd Ringland. Bu’n destun trosglwyddo stoc i Gartrefi Dinas Casnewydd. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn edrych ar yr amgylchedd ehangach, ar ôl gwneud llawer o waith ar ffabrig yr adeiladau, ac rwy’n credu eu bod yn agored i syniadau am sut maen nhw’n creu amgylchedd o’r ansawdd gorau i bobl leol. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, yn fy marn i—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhai o'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—os ydym am gyflawni'r atebion gorau. Un o'r materion hefyd, er enghraifft ar Hendre Farm Drive ar ystâd Ringland, yw cyflymder y traffig. Mae rhai mesurau arafu traffig ar waith, ac, ar rai rhannau o'r ffordd, mae yna derfyn cyflymder o 20 mya ar waith, ond nid yw hyn ar hyd y ffordd gyfan. Mae llawer o barcio dwbl a llawer o blant yn chwarae, ond mae rhai rhieni yn amharod i ganiatáu i'w plant fynd allan i fwynhau'r amgylchedd awyr agored oherwydd peryglon traffig yn goryrru ar y ffordd. Felly, rwy'n credu bod honno'n un enghraifft o sut mae angen i ni edrych yn eang a chydweithio o fewn Llywodraeth Cymru, ac â phartneriaid eraill, os ydym am greu'r amgylchedd a fydd yn golygu y bydd ein poblogaethau yng Nghymru yn fwy egnïol, yn fwy cysylltiedig â'u hamgylcheddau lleol, yn eu gwerthfawrogi’n fwy, ac yna, gobeithio, yn ad-dalu’r meddwl a’r gwaith hwnnw drwy ddangos agweddau mwy cyfrifol, boed hynny trwy gymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu, peidio â gollwng sbwriel, peidio â thipio yn anghyfreithlon, neu fwynhau'r amgylchedd ehangach.
Y trydydd mater yr hoffwn sôn amdano, unwaith eto o ran cysylltu poblogaethau lleol â’u hamgylcheddau lleol, yw, rwy’n credu, llwybrau cylchol sy'n cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r syniadau gwreiddiol pan wnaethom siarad am ddatblygu llwybr yr arfordir, y byddem yn annog y llwybrau cylchol hyn. Nid wyf yn ymwybodol o fodolaeth cymaint â hynny ohonynt yng Nghymru, ond yn sicr hoffwn i weld y rhai sydd wedi’u datblygu yng Nghasnewydd, a fyddai'n cysylltu ystadau fel Ringland, nad ydyn nhw mor bell â hynny oddi wrth lwybr yr arfordir, gyda'r llwybr arfordirol hwnnw. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig am ba un a fydd ystyriaeth, a gobeithio gweithredu, yn fuan iawn i gyflawni’r llwybrau cylchol hynny, a fyddai, yn fy marn i, yn fuddiol iawn, ac y gellid yn amlwg eu datblygu drwy Gymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am y ddadl adeiladol iawn, ac mae'n dda cael cefnogaeth pawb. Mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi ddechrau yn y swydd, mae’n debyg mai ansawdd yr aer sy’n llenwi’r rhan fwyaf o fy mag post gan Aelodau’r Cynulliad eu hunain. I droi yn gyntaf at welliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i gefnogi hwnnw. Soniodd Gareth Bennett am yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a dylwn i ddweud mai awdurdodau lleol sy'n nodi ardaloedd yn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, nid Llywodraeth Cymru, ac nid yw’r ffaith nad ydyn nhw wedi cael eu dirymu yn golygu nad yw ansawdd yr aer yn well nag y byddai pe na byddai wedi ei nodi. Felly, rydym yn hapus iawn, fel y dywedais, i gefnogi hynny.
Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag awdurdodau lleol sy'n tanberfformio, ac, yn sicr, rydym ni wedi cael yr ymgynghoriad bellach ar ansawdd aer a sŵn. Cawsom tua 50 o ymatebion, felly mae swyddogion wrthi'n dadansoddi'r ymatebion hynny ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, byddaf yn adrodd yn ôl drwy ddatganiad i'r Aelodau erbyn diwedd mis Mawrth. Ond, yn sicr, rwyf eisiau cyhoeddi canllawiau, rheoliadau uniongyrchol—gallaf i wneud hynny i gyd—ond mae angen hefyd i mi allu gweithredu, rwy’n credu, yn llawer mwy cadarn gydag awdurdodau lleol.
Os caf i droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, ac, fel y dywedais, rwy’n credu bod pawb wedi cyfeirio at ansawdd yr aer. Rwy'n credu bod ansawdd yr aer yng Nghymru yn dda ar y cyfan, ond mae rhai heriau sylweddol, yn arbennig yng nghyffiniau ffyrdd prysur, y mae angen i ni roi sylw iddyn nhw. Roeddwn i’n meddwl ei bod yn holloll iawn i gynnal ymgynghoriad pan y gwnaethom, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sut y gallwn wella pethau.
Soniodd David Melding am Oslo, ac efallai y bydd yr Aelodau’n cofio pan ddes i’n ôl o Marrakesh, fy mod i wedi cwrdd â dirprwy faer Oslo a buom yn siarad am hynny. Fel y dywedwch, ni ddylem o reidrwydd ddilyn yn hynny o beth, ond yr oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i, i weld yr hyn y mae Oslo yn ei wneud ynglŷn â thrafnidiaeth.
Soniodd Simon Thomas am iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol ar y cyd, ac rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Rydym yn mynd i orfod defnyddio mesurau llymach o ran ansawdd aer, yn arbennig, yn fy marn i, o ran cerbydau sy’n creu llawer o lygredd. Soniodd John Griffiths am LPG, ac rwyf wedi gofyn am gyngor ar ddatblygu hynny, oherwydd eich bod wedi codi hynny o'r blaen yn y Siambr, John, gyda mi.
Soniodd Simon Thomas hefyd am Aberddawan, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE o ran addasiadau i'r drwydded amgylcheddol. Rwyf wedi cwrdd â’r ddwy ochr yn dilyn dyfarniad y llys i siarad â nhw amdani. Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ac yn monitro'r addasiadau i'r drwydded. Mae RWE wedi buddsoddi'n sylweddol mewn atal llygredd, ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn dod o fewn y cyfyngiadau amgylcheddol sydd wedi eu cyflwyno.
Soniodd nifer o'r Aelodau am blannu coed a phwysigrwydd plannu coed yn gywir. Unwaith eto, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe i siarad am hyn, oherwydd rydych chi’n hollol gywir, Simon Thomas, gallan nhw sgwrio gronynnau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plannu yn y modd cywir.
Rwy’n credu bod Mike Hedges wedi codi sawl pwynt sy'n llenwi ein holl fagiau post gan ein hetholwyr: baw cŵn, tipio anghyfreithlon—ac, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar dipio anghyfreithlon ar raddfa fach oherwydd bod arweinwyr cynghorau, yn arbennig, wedi dweud wrthyf fod angen iddyn nhw ymdrin â'r un bag du o sbwriel sydd wedi ei daflu. Felly, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd.
Mae Mike Hedges hefyd yn iawn ynglŷn â’r stori dda sydd gennym i’w hadrodd ar ailgylchu. Cawsom ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ailgylchu, ac rydym ar flaen y gad yn y DU—yn bedwerydd yn Ewrop. Ond mae'r uchelgais i gael gwlad ddiwastraff yn hollol gywir. Soniais, yn fy sylwadau agoriadol, fod angen i ni berswadio’r bobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd, a’r bag du hwnnw sy’n dal i gynnwys 50 y cant o ddeunyddiau y gellid eu hailgylchu.
Soniodd Jenny Rathbone am fannau gwyrdd, seilwaith gwyrdd a choed, a ches i gyfarfod diddorol iawn gyda Julie Morgan yr wythnos diwethaf, oherwydd bod Julie wedi sôn mewn cwestiynau am erddi cymunedol a welodd hi yn Efrog Newydd. Mae pob man yn Efrog Newydd y gellir ei droi naill ai yn wely blodau neu blannu coed neu ffrwythau a llysiau arno, yn cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych i weld beth y gellir ei ddatblygu yn yr ystyr hwnnw. Rwy'n credu bod menter yn Abertawe y gallwn edrych arni i weld a allwn ni ledaenu yr arfer gorau hwnnw.
O ran polisi cynllunio, soniodd Gareth Bennett am bolisi cynllunio, ac rydym yn adolygu’r polisi cynllunio i weld a allwn ni roi pwyslais cryfach ar les ac iechyd, a byddai hynny’n berthnasol yn hynny o beth.
I ddychwelyd at bwysigrwydd rhannu cyfrifoldeb am y materion pwysig hyn, rwy’n credu bod angen egni ac ymrwymiad pawb yng Nghymru i’n helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Rwy'n credu bod angen i bobl mewn cymunedau weithio gyda ni, tirfeddianwyr preifat, busnesau bach, busnesau mawr, datblygwyr, adeiladwyr tai, sefydliadau’r trydydd sector a’r holl gyrff cyhoeddus hefyd.
Gofynnodd John Griffiths am weithio ar draws y llywodraeth, a chredaf ei fod yn amlwg yn gyfrifoldeb traws-bortffolio. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar y cyd ar draws pob maes polisi. Soniais fy mod i'n gweithio gyda Rebecca Evans ar deithio egnïol, ac yn amlwg gyda Ken Skates ar drafnidiaeth.
Gall newidiadau bach, a all fod yn syml ac yn fforddiadwy, wneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae mynd yn ôl at osod rhagor o finiau gwastraff, rhagor o finiau ailgylchu a biniau gwastraff cŵn, rwy’n credu, yn bwysig iawn allan yna.
Siaradodd Simon Thomas am boteli plastig a chwpanau y gellir eu hailgylchu. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â siop goffi adnabyddus iawn ar y stryd fawr.
Starbucks.
Starbucks, ie. [Chwerthin.] Roedden nhw'n dweud wrthyf am gynllun treialu sydd ganddyn nhw yn Llundain, lle mae biniau ar gael i bobl wagio unrhyw beth sydd ar ôl yn y gwpan, a bin arall wedyn lle mae modd ailgylchu eu cwpan. Felly, mae gwaith yn digwydd. Dywedais y byddem yn hapus iawn i gael cynllun treialu yma yng Nghymru, yn y dyfodol.
Felly, credaf ei fod yn glir iawn, o'r consensws yn y Siambr, bod manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mater hwn, yno i bawb eu gweld. Diolch.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig NDM6211 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy’n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella’r mannau lle y maent yn byw.
3. Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.
The proposal is therefore to agree the motion as amended. Does any Member object? The motion as amended is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Daw hynny â’n trafodion i ben am y dydd.