Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 24 Ionawr 2017.
A gaf i sôn yn gyntaf, fel y mae llawer wedi ei wneud, am lygredd aer o ran allyriadau o gerbydau, a pheiriannau diesel yn arbennig, sydd, fel y gwyddom, yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Rwyf wedi crybwyll o'r blaen yn y Siambr fy mod i wedi cwrdd â Calor, fel sefydliad, a siaradodd am newid o diesel i nwy Calor, yn enwedig efallai ar gyfer fflydoedd tacsi, ond gellid cymhwyso hyn yn fwy cyffredinol ac yn ehangach. Gall y gost, mae'n debyg, gael ei hadennill o fewn dwy flynedd—cost y gwaith addasu cychwynnol. Wrth gwrs, mae'n fuddiol iawn i iechyd y cyhoedd, drwy leihau yn fawr cynnwys y gronynnau mewn allyriadau o’r cerbydau hynny. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywfaint am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl am gefnogi’r addasiadau hynny, a allai wneud rhywbeth ymarferol iawn ac amserol iawn i helpu i gyfrannu at leihau'r allyriadau niweidiol iawn hyn, a chyn, efallai, ein bod yn trafod atebion mwy parhaol megis ceir trydan a cherbydau trydan yn fwy cyffredinol.
Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod pa mor gryf y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill a Gweinidogion eraill ar agendâu sy'n bwysig i greu amgylchedd mwy addas ar gerrig drws pobl—y rhai hynny ar rai o'n hystadau cyngor blaenorol a’n hystadau cyngor presennol yng Nghasnewydd, er enghraifft ar ystâd Ringland. Bu’n destun trosglwyddo stoc i Gartrefi Dinas Casnewydd. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn edrych ar yr amgylchedd ehangach, ar ôl gwneud llawer o waith ar ffabrig yr adeiladau, ac rwy’n credu eu bod yn agored i syniadau am sut maen nhw’n creu amgylchedd o’r ansawdd gorau i bobl leol. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, yn fy marn i—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhai o'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig—os ydym am gyflawni'r atebion gorau. Un o'r materion hefyd, er enghraifft ar Hendre Farm Drive ar ystâd Ringland, yw cyflymder y traffig. Mae rhai mesurau arafu traffig ar waith, ac, ar rai rhannau o'r ffordd, mae yna derfyn cyflymder o 20 mya ar waith, ond nid yw hyn ar hyd y ffordd gyfan. Mae llawer o barcio dwbl a llawer o blant yn chwarae, ond mae rhai rhieni yn amharod i ganiatáu i'w plant fynd allan i fwynhau'r amgylchedd awyr agored oherwydd peryglon traffig yn goryrru ar y ffordd. Felly, rwy'n credu bod honno'n un enghraifft o sut mae angen i ni edrych yn eang a chydweithio o fewn Llywodraeth Cymru, ac â phartneriaid eraill, os ydym am greu'r amgylchedd a fydd yn golygu y bydd ein poblogaethau yng Nghymru yn fwy egnïol, yn fwy cysylltiedig â'u hamgylcheddau lleol, yn eu gwerthfawrogi’n fwy, ac yna, gobeithio, yn ad-dalu’r meddwl a’r gwaith hwnnw drwy ddangos agweddau mwy cyfrifol, boed hynny trwy gymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu, peidio â gollwng sbwriel, peidio â thipio yn anghyfreithlon, neu fwynhau'r amgylchedd ehangach.
Y trydydd mater yr hoffwn sôn amdano, unwaith eto o ran cysylltu poblogaethau lleol â’u hamgylcheddau lleol, yw, rwy’n credu, llwybrau cylchol sy'n cysylltu cymunedau lleol â llwybr yr arfordir. Rwy'n credu bod hwn yn un o'r syniadau gwreiddiol pan wnaethom siarad am ddatblygu llwybr yr arfordir, y byddem yn annog y llwybrau cylchol hyn. Nid wyf yn ymwybodol o fodolaeth cymaint â hynny ohonynt yng Nghymru, ond yn sicr hoffwn i weld y rhai sydd wedi’u datblygu yng Nghasnewydd, a fyddai'n cysylltu ystadau fel Ringland, nad ydyn nhw mor bell â hynny oddi wrth lwybr yr arfordir, gyda'r llwybr arfordirol hwnnw. Felly, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig am ba un a fydd ystyriaeth, a gobeithio gweithredu, yn fuan iawn i gyflawni’r llwybrau cylchol hynny, a fyddai, yn fy marn i, yn fuddiol iawn, ac y gellid yn amlwg eu datblygu drwy Gymru.