Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 24 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am y ddadl adeiladol iawn, ac mae'n dda cael cefnogaeth pawb. Mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi ddechrau yn y swydd, mae’n debyg mai ansawdd yr aer sy’n llenwi’r rhan fwyaf o fy mag post gan Aelodau’r Cynulliad eu hunain. I droi yn gyntaf at welliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i gefnogi hwnnw. Soniodd Gareth Bennett am yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a dylwn i ddweud mai awdurdodau lleol sy'n nodi ardaloedd yn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, nid Llywodraeth Cymru, ac nid yw’r ffaith nad ydyn nhw wedi cael eu dirymu yn golygu nad yw ansawdd yr aer yn well nag y byddai pe na byddai wedi ei nodi. Felly, rydym yn hapus iawn, fel y dywedais, i gefnogi hynny.
Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag awdurdodau lleol sy'n tanberfformio, ac, yn sicr, rydym ni wedi cael yr ymgynghoriad bellach ar ansawdd aer a sŵn. Cawsom tua 50 o ymatebion, felly mae swyddogion wrthi'n dadansoddi'r ymatebion hynny ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, byddaf yn adrodd yn ôl drwy ddatganiad i'r Aelodau erbyn diwedd mis Mawrth. Ond, yn sicr, rwyf eisiau cyhoeddi canllawiau, rheoliadau uniongyrchol—gallaf i wneud hynny i gyd—ond mae angen hefyd i mi allu gweithredu, rwy’n credu, yn llawer mwy cadarn gydag awdurdodau lleol.
Os caf i droi at rai o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, ac, fel y dywedais, rwy’n credu bod pawb wedi cyfeirio at ansawdd yr aer. Rwy'n credu bod ansawdd yr aer yng Nghymru yn dda ar y cyfan, ond mae rhai heriau sylweddol, yn arbennig yng nghyffiniau ffyrdd prysur, y mae angen i ni roi sylw iddyn nhw. Roeddwn i’n meddwl ei bod yn holloll iawn i gynnal ymgynghoriad pan y gwnaethom, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at sut y gallwn wella pethau.
Soniodd David Melding am Oslo, ac efallai y bydd yr Aelodau’n cofio pan ddes i’n ôl o Marrakesh, fy mod i wedi cwrdd â dirprwy faer Oslo a buom yn siarad am hynny. Fel y dywedwch, ni ddylem o reidrwydd ddilyn yn hynny o beth, ond yr oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i, i weld yr hyn y mae Oslo yn ei wneud ynglŷn â thrafnidiaeth.
Soniodd Simon Thomas am iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol ar y cyd, ac rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Rydym yn mynd i orfod defnyddio mesurau llymach o ran ansawdd aer, yn arbennig, yn fy marn i, o ran cerbydau sy’n creu llawer o lygredd. Soniodd John Griffiths am LPG, ac rwyf wedi gofyn am gyngor ar ddatblygu hynny, oherwydd eich bod wedi codi hynny o'r blaen yn y Siambr, John, gyda mi.
Soniodd Simon Thomas hefyd am Aberddawan, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE o ran addasiadau i'r drwydded amgylcheddol. Rwyf wedi cwrdd â’r ddwy ochr yn dilyn dyfarniad y llys i siarad â nhw amdani. Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ac yn monitro'r addasiadau i'r drwydded. Mae RWE wedi buddsoddi'n sylweddol mewn atal llygredd, ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn dod o fewn y cyfyngiadau amgylcheddol sydd wedi eu cyflwyno.
Soniodd nifer o'r Aelodau am blannu coed a phwysigrwydd plannu coed yn gywir. Unwaith eto, cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe i siarad am hyn, oherwydd rydych chi’n hollol gywir, Simon Thomas, gallan nhw sgwrio gronynnau, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael eu plannu yn y modd cywir.
Rwy’n credu bod Mike Hedges wedi codi sawl pwynt sy'n llenwi ein holl fagiau post gan ein hetholwyr: baw cŵn, tipio anghyfreithlon—ac, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar dipio anghyfreithlon ar raddfa fach oherwydd bod arweinwyr cynghorau, yn arbennig, wedi dweud wrthyf fod angen iddyn nhw ymdrin â'r un bag du o sbwriel sydd wedi ei daflu. Felly, unwaith eto, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd.
Mae Mike Hedges hefyd yn iawn ynglŷn â’r stori dda sydd gennym i’w hadrodd ar ailgylchu. Cawsom ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ailgylchu, ac rydym ar flaen y gad yn y DU—yn bedwerydd yn Ewrop. Ond mae'r uchelgais i gael gwlad ddiwastraff yn hollol gywir. Soniais, yn fy sylwadau agoriadol, fod angen i ni berswadio’r bobl nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd, a’r bag du hwnnw sy’n dal i gynnwys 50 y cant o ddeunyddiau y gellid eu hailgylchu.
Soniodd Jenny Rathbone am fannau gwyrdd, seilwaith gwyrdd a choed, a ches i gyfarfod diddorol iawn gyda Julie Morgan yr wythnos diwethaf, oherwydd bod Julie wedi sôn mewn cwestiynau am erddi cymunedol a welodd hi yn Efrog Newydd. Mae pob man yn Efrog Newydd y gellir ei droi naill ai yn wely blodau neu blannu coed neu ffrwythau a llysiau arno, yn cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych i weld beth y gellir ei ddatblygu yn yr ystyr hwnnw. Rwy'n credu bod menter yn Abertawe y gallwn edrych arni i weld a allwn ni ledaenu yr arfer gorau hwnnw.
O ran polisi cynllunio, soniodd Gareth Bennett am bolisi cynllunio, ac rydym yn adolygu’r polisi cynllunio i weld a allwn ni roi pwyslais cryfach ar les ac iechyd, a byddai hynny’n berthnasol yn hynny o beth.
I ddychwelyd at bwysigrwydd rhannu cyfrifoldeb am y materion pwysig hyn, rwy’n credu bod angen egni ac ymrwymiad pawb yng Nghymru i’n helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Rwy'n credu bod angen i bobl mewn cymunedau weithio gyda ni, tirfeddianwyr preifat, busnesau bach, busnesau mawr, datblygwyr, adeiladwyr tai, sefydliadau’r trydydd sector a’r holl gyrff cyhoeddus hefyd.
Gofynnodd John Griffiths am weithio ar draws y llywodraeth, a chredaf ei fod yn amlwg yn gyfrifoldeb traws-bortffolio. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar y cyd ar draws pob maes polisi. Soniais fy mod i'n gweithio gyda Rebecca Evans ar deithio egnïol, ac yn amlwg gyda Ken Skates ar drafnidiaeth.
Gall newidiadau bach, a all fod yn syml ac yn fforddiadwy, wneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae mynd yn ôl at osod rhagor o finiau gwastraff, rhagor o finiau ailgylchu a biniau gwastraff cŵn, rwy’n credu, yn bwysig iawn allan yna.
Siaradodd Simon Thomas am boteli plastig a chwpanau y gellir eu hailgylchu. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â siop goffi adnabyddus iawn ar y stryd fawr.