Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 24 Ionawr 2017.
Starbucks, ie. [Chwerthin.] Roedden nhw'n dweud wrthyf am gynllun treialu sydd ganddyn nhw yn Llundain, lle mae biniau ar gael i bobl wagio unrhyw beth sydd ar ôl yn y gwpan, a bin arall wedyn lle mae modd ailgylchu eu cwpan. Felly, mae gwaith yn digwydd. Dywedais y byddem yn hapus iawn i gael cynllun treialu yma yng Nghymru, yn y dyfodol.
Felly, credaf ei fod yn glir iawn, o'r consensws yn y Siambr, bod manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y mater hwn, yno i bawb eu gweld. Diolch.