Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch. Felly, fe archwiliaf bob un o’r achosion hyn. Roedd y clip cyntaf gan Lorna Hamer o Quality Pipe Supports, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu pan ddywedodd Lorna na all ailgylchu cardbord a phlastig yn unman ym Mhowys. Pan holais i hi, roedd un lle yn y dref nesaf, ond yn anffodus, nid oedd y cwmni’n ei dderbyn yn y ffurf yr oeddent yn ei gynhyrchu ac roedd lleiafswm gofynion ar gyfer derbyn y cardbord yn ogystal. Felly, roedd yn rhaid iddynt fynd dros y ffin i Groesoswallt. Dylwn egluro hefyd—mae gan y cwmni drwydded, sy’n golygu ei fod yn cael cludo ei wastraff ailgylchadwy i ddepo ychydig i fyny’r ffordd, a oedd yn gweithio’n dda iawn hyd nes ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond wedyn yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y cyngor wedi cyfyngu ar lawer o’r eitemau y gellir eu hailgylchu. Maent wedi eu croesi oddi ar y rhestr a dweud, ‘Ni all busnesau fynd â’r eitemau hyn i’r pwynt ailgylchu mwyach.’
Pan holais y cyngor ynglŷn â hyn, dywedasant eu bod yn gwneud hyn er mwyn arbed costau; nid oedd yn hyfyw o safbwynt ariannol iddynt dderbyn yr eitemau hyn mwyach a dylai busnesau ddefnyddio busnesau preifat—ond nid oes unrhyw fusnes preifat sy’n gallu dod i mewn i’r ardal am ei bod mor wledig; nid yw’n ymarferol yn ariannol iddynt hwy wneud hynny chwaith. Felly, mae llawer o wastraff ailgylchu naill ai’n pentyrru neu’n cael ei roi i mewn gyda’r gwastraff gweddilliol. Nid dyna y mae’r cwmni am ei wneud. Maent yn ei roi yn y gwastraff gweddilliol, ac mae’n costio mwy o arian i wneud hynny hefyd, wrth gwrs. Felly, i bob pwrpas, mae hon bellach yn dreth ar fusnesau gwledig, oherwydd ni fydd neb arall yn derbyn eu gwastraff ailgylchadwy.
Paul Martin—nid busnes yw hwn, mae’n un o gynheiliaid y gymuned leol yng Ngheri. Nawr, mae’n gwneud y pwynt fod y bobl yn ei bentref yn arfer ailgylchu’n dda iawn, ond wedyn, wrth gwrs, cafodd y cyngor wared ar y cyfleuster ailgylchu yn y pentref a dywedwyd wrthynt i gyd am fynd i’r dref nesaf, ‘Ewch i’r Drenewydd, ewch â’ch holl wastraff ailgylchadwy yno.’ Ond y peth yw, mae’r cyngor yn awr yn bwriadu cau naill ai hwnnw neu gyfleuster ailgylchu’r Trallwng. Felly, dyma’r achos y mae yntau’n ei ymladd hefyd. Rydym yn gwybod, y llynedd, fod y cyngor wedi cau cyfleuster ym Machynlleth ac wedi dweud wrth eu holl drigolion yno, ‘Rhaid i chi fynd â’ch gwastraff ailgylchu i’r Drenewydd yn awr’. Dyna daith gron o 60 milltir. Felly, pan euthum i gymhorthfa gynghori ym Machynlleth y llynedd, daeth un preswylydd yno gyda llwyth o fagiau a dweud, ‘I ble rydych chi’n mynd ar ôl hyn?’, A dywedais, ‘Yn ôl i’r Drenewydd’. Dywedodd, ‘A allwch chi fynd â’r rhain i gyd gyda chi?’, a bu’n rhaid i mi eu rhoi i gyd yn fy nghar, gan gynnwys pot o olew. Dyna daith gron o 60 milltir. Ni allai’r preswylydd fynd â’r eitemau ei hun yn syml am mai beic modur yn unig oedd ganddo. Nid oedd lle iddo ar ei feic modur. Felly, dyna’r broblem. Yr hyn fydd yn digwydd, os yw cyfleuster y Drenewydd yn cau, yw y bydd disgwyl i’r trigolion deithio o Fachynlleth—taith gron o 112 milltir. Felly, rydych yn mynd o ben gorllewinol Cymru yr holl ffordd at y ffin. Dyna’r sefyllfa rydym ynddi. Rwy’n sylweddoli y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, ‘Wel, mater i’r cyngor sir yw hwn’, ond y cwestiwn yw: a yw hyn yn dderbyniol? A oes angen i ni gyflwyno deddfwriaeth, a dof at hynny, ac a ddylai hyn fod yn digwydd? Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud fy mod yn gynghorydd sir ym Mhowys, ond y gwir amdani yw mai penderfyniad cabinet Cyngor Sir Powys yw hwn, ac mae’n benderfyniad sy’n digwydd ar draws yr awdurdodau gwledig, ble bynnag y boch. Mae’n achos rwy’n ei gyflwyno ac yn dweud, ‘Dyma rywbeth rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn ac ymdrin ag ef.’
Yr achos olaf yw achos Daniel Morgan o barc Cefn Lea, lle y mae ganddynt 20,000 o westeion bob blwyddyn. Roedd yn dweud bod ganddynt 10 o sgipiau i gyd yn mynd i wastraff gweddilliol—roedd y cyfan yn mynd i safleoedd tirlenwi yn flaenorol. Maent wedi newid eu systemau; felly, dau yn unig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ac mae wyth yn cael eu hailgylchu. Nawr, maent yn dychwelyd i’r sefyllfa lle y bydd pob un yn mynd i safleoedd tirlenwi eto. Mae hyn ar y rhagdybiaeth, er enghraifft, fod ganddynt lawer o wastraff bwyd. Mae’r cyngor bellach yn dweud, ‘O’r wythnos nesaf ymlaen, nid ydym yn mynd i fod yn casglu eich gwastraff bwyd mwyach; mae’n rhaid i chi fynd ag ef eich hun i’r ganolfan ailgylchu’, ond nid oes ganddynt gerbyd i fynd â’u gwastraff bwyd i’r ganolfan ailgylchu, a dyna’r sefyllfa y maent ynddi.
Hoffwn hefyd gyflwyno un achos olaf, sef siop Dafarn Newydd, siop fechan yn Llanwddyn, y bydd eu casgliad ailgylchu masnachol yn dod i ben ddiwedd yr wythnos hon. Mae’r siop wedi fy hysbysu na chawsant wybod ymlaen llaw fod y gwasanaeth yn cael ei adolygu, a bod y cyngor wedi dweud yn syml y bydd hyn yn digwydd o’r wythnos nesaf ymlaen. Anfonais e-bost at y cyngor am hyn—yr aelod o’r Cabinet—a dyma’r ateb a gefais. Rwy’n darllen oddi ar y sgrin: ‘Rydym yn dal i allu darparu casgliad gwastraff gweddilliol masnachol, h.y. heb fod yn ailgylchadwy, ond ni allwn gyfiawnhau’r gost o gasglu deunydd ailgylchu. Felly, yn anffodus, yr unig opsiwn yw i’r masnachwyr yr effeithir arnynt roi’r holl wastraff yn y bin gweddilliol, neu fynd ag ef i’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref drwy gynllun trwyddedau.’ Maent wedi rhoi cyngor i mi mewn gwirionedd y dylwn ddweud wrth y busnes am ei roi i mewn gyda gwastraff gweddilliol. Dyma’r sefyllfa yr ydym ynddi. Wrth gwrs, mae’n daith gron o 70 milltir iddo, ac os yw’r ganolfan ailgylchu honno’n cau, yna mae’n mynd i fod yn bellter pellach byth.
Ymwelais â nifer o ganolfannau ailgylchu fy hun o gwmpas Sir Drefaldwyn ar sawl achlysur, a gwelais â’m llygaid fy hun pa mor boblogaidd yw’r canolfannau, gyda rhesi o bobl yn aml yn ffurfio. Mae hynny’n dda, onid yw? Dyna rydym ei eisiau. Felly, wrth gwrs, rwy’n pryderu am y cyfyngu ar oriau agor rhai o’r canolfannau hyn, a hefyd y perygl y bydd un ohonynt yn cau. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried newid y ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio yn hyn o beth. Rwy’n edrych ar Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n datgan bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i’w drigolion lle y gallant fynd â’u gwastraff cartref. Felly, credaf fod gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae yma yn diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd, nad yw’n addas i’r diben ar hyn o bryd yn fy marn i. Nid yw’n sefyllfa dderbyniol mai un ganolfan ailgylchu yn unig a geir drwy sir gyfan—ac rwy’n meddwl am siroedd gwledig fel Powys. Nid yw’n addas i’r diben, ac mae angen diweddaru’r ddeddfwriaeth. Cafodd ei chyflwyno, wrth gwrs, cyn ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, pan gafodd ei chyflwyno, roedd yna dri chyngor ym Mhowys mewn gwirionedd. Dyma’n union pam y mae angen ei diweddaru.
Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd yr hyn a ddywedais yn y ddadl fer hon heddiw, a’r hyn a ddywedodd y trigolion yn yr astudiaeth achos a ddangoswyd yn gynharach, yn argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet o’r angen i ddiwygio’r Ddeddf, a hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gymell a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Byddai’n economi ffug pe baem yn lleihau cost rheoli gwastraff ar y naill law ac yna, ar y llaw arall, ein bod yn ei weld yn effeithio’n andwyol ar gyfraddau ailgylchu a throseddau amgylcheddol.
Rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i grybwyll y materion hyn yn y ddadl fer heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at gael ateb cadarnhaol ac adeiladol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw dweud wrthyf y byddai’n well gennych weld Cyngor Sir Powys yn datrys y mater yn dda i ddim; cynghorydd ar feinciau cefn cyngor sir Powys wyf fi, ac aelodau’r cabinet sy’n gwneud y penderfyniadau. Nid mater i Bowys yn unig yw hwn—mae’n fater i bob awdurdod gwledig, ac rwy’n gobeithio y gallaf weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno deddfwriaeth i ddatrys y mater. Rwy’n rhoi un funud i Darren Millar.