– Senedd Cymru am 6:27 pm ar 25 Ionawr 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda. Diolch. Galwaf yn awr ar Russell George i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer heddiw yw ‘Her ailgylchu i fusnesau a thrigolion yng Nghymru wledig.’ Rwy’n mynd i ddechrau fy nghyfraniad drwy gymeradwyo’r Llywodraeth a dweud gwaith mor dda y maent yn ei wneud, yna rwy’n mynd i gyflwyno rhai achosion sy’n dangos, os nad ydym yn cynnal y momentwm, y bydd pethau’n newid. Wedyn hefyd rwy’n mynd i ddangos clip fideo sy’n tynnu sylw at rai o’r achosion yn fy etholaeth i. Rwy’n mynd i roi munud o fy amser i Darren Millar, a dylwn ddatgan hefyd fy mod yn aelod o Gyngor Sir Powys.
Felly, fe ddechreuaf drwy nodi bod y darlun cyffredinol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru yn un cadarnhaol. Mae strategaeth wastraff gyfredol Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, wedi gosod targed uchelgeisiol iawn o ailgylchu 70 y cant erbyn 2014-25 yn gyffredinol, ac mae cyfraddau ailgylchu Cymru eisoes yn uwch na’r targed ailgylchu statudol o 58 y cant, a bennwyd yn 2015-16. Felly, mae 19 allan o 22 o gynghorau wedi cyrraedd neu ragori ar y targed hwnnw, ac eithrio materion sy’n dal heb eu datrys yn ne-ddwyrain Cymru. Mae perfformiad Llywodraeth Cymru ar ailgylchu i raddau helaeth yn un y gallwn ni yng Nghymru fod yn falch ohono. Yn wir, mae’r ymagwedd gyffredinol yn dda, gyda thargedau da a chlir, a monitro a gwerthuso priodol, felly mae’n ymagwedd safon aur, rwy’n meddwl, gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhywbeth y gall gweddill Ewrop ddysgu oddi wrtho a’i fabwysiadu. Felly, dyna ni.
Felly, agwedd dda hyd yn hyn. Ond mae hanes Cymru o ailgylchu hefyd yn adlewyrchu newid mewn agweddau ar draws y gymdeithas tuag at ailgylchu, ac mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, os ydym i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70 y cant erbyn 2025, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm drwy ddarparu atebion arloesol i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan leihau’r rhwystrau i ailgylchu, ac at hynny rwy’n dod—y rhwystrau i ailgylchu. Felly, rwy’n bryderus fod awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cyfyngu ar gasgliadau gwastraff preswyl a masnachol, yn bennaf fel ymarferion torri costau, heb ddarparu’r cyfleusterau i alluogi trigolion a busnesau i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu. Felly, mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw polisïau rheoli gwastraff, megis symud i gasgliadau tair wythnos, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran cynyddu troseddau amgylcheddol megis tipio anghyfreithlon, a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn arweinydd Ewropeaidd ym maes ailgylchu. Felly, er enghraifft, mae awdurdodau lleol fel fy un i ym Mhowys wedi newid i gasglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos ac mewn rhai ffyrdd, maent yn creu rhwystrau diangen i drigolion a busnesau o ran annog ailgylchu. Yn wir, rwy’n ofni bod polisïau presennol, onid eir i’r afael â hwy, yn effeithio’n andwyol ar gyfraddau ailgylchu yn y sir.
Hoffwn yn awr ddangos fideo byr sy’n dangos rhai o’r heriau y mae perchnogion busnes a thrigolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Ychydig o funudau’n unig ydyw, ac yna byddaf yn archwilio pob un o’r achosion. Gofynnaf yn awr am i’r fideo gael ei ddangos.
Lorna Hamer: ‘Helo, Lorna ydw i o Quality Pipe Supports yn y Drenewydd, Powys. Dyma’r fan lle rydym yn ailgylchu. Rydym yn ailgylchu plastig, sy’n rhaid i ni ei gludo dros y ffin i Groesoswallt gan nad oes unman ym Mhowys i’w ailgylchu. Mae’r un peth yn wir am bapur a chardbord; mae’n rhaid i ni fynd â hwy i Groesoswallt. Rhaid i ni fynd â metelau at gwmni lleol. Pren—rydym yn ailgylchu hwnnw, ond nid oes unman ym Mhowys y gallwn fynd ag ef. Yna byddwn yn ailgylchu’r cwpanau plastig hyn, gan fod modd eu hailgylchu—[Anghlywadwy.]—nid oes unman ym Mhowys i’w hailgylchu. Mae hi’r un fath gyda ffabrigau ac erosolau; nid oes unman i fynd â hwy. Rydym yn talu am drwydded i’r cyngor ar gyfer ailgylchu ein nwyddau, ond nid oes unman iddynt fynd.’
Paul Martin: ‘Fel y gallwch weld, mae’r bin ar waelod fy lôn yn llawn o wastraff cartref. Mae yna lawer o fagiau du, na ddylent fod yma o gwbl—dylent fod yn borffor. Bydd hwn yn gollwng dros yr ochrau erbyn yr adeg y caiff ei gasglu, sef ymhen tua 10 diwrnod. Rydym wedi sylwi ar gynnydd mawr yn y gwastraff yn y bin hwn ers cau uned ailgylchu Ceri ychydig fisoedd yn ôl.’
Dan Morgan: ‘Helo, fy enw i yw Dan Morgan. Fi yw’r rheolwr cyffredinol yma ym mharc Cefn Lea yn y Drenewydd, Powys. Gwybodaeth am ein sbwriel ar hyn o bryd, gan fod hyn wedi dod yn dipyn o broblem i ni fel busnes: nifer o flynyddoedd yn ôl, arferai fod gennym tua 10 o’r biniau olwyn hyn yn llawn o sbwriel bob wythnos. Yn ystod y tair neu bedair blynedd diwethaf, ers i’r ailgylchu ddod ar waith gan y cyngor, rydym wedi torri hyn i lawr i ddau fin yr wythnos, tra bo llond wyth bin arall o sbwriel bob wythnos yn cael ei ailgylchu yn y biniau gwastraff bwyd a phlastig ac yn y blaen. Yn awr, o 1 Chwefror, mae’r cyngor yn torri gwasanaethau ailgylchu i fusnesau, sy’n broblem fawr i ni.’
Diolch. Felly, fe archwiliaf bob un o’r achosion hyn. Roedd y clip cyntaf gan Lorna Hamer o Quality Pipe Supports, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu pan ddywedodd Lorna na all ailgylchu cardbord a phlastig yn unman ym Mhowys. Pan holais i hi, roedd un lle yn y dref nesaf, ond yn anffodus, nid oedd y cwmni’n ei dderbyn yn y ffurf yr oeddent yn ei gynhyrchu ac roedd lleiafswm gofynion ar gyfer derbyn y cardbord yn ogystal. Felly, roedd yn rhaid iddynt fynd dros y ffin i Groesoswallt. Dylwn egluro hefyd—mae gan y cwmni drwydded, sy’n golygu ei fod yn cael cludo ei wastraff ailgylchadwy i ddepo ychydig i fyny’r ffordd, a oedd yn gweithio’n dda iawn hyd nes ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond wedyn yr hyn a ddigwyddodd oedd bod y cyngor wedi cyfyngu ar lawer o’r eitemau y gellir eu hailgylchu. Maent wedi eu croesi oddi ar y rhestr a dweud, ‘Ni all busnesau fynd â’r eitemau hyn i’r pwynt ailgylchu mwyach.’
Pan holais y cyngor ynglŷn â hyn, dywedasant eu bod yn gwneud hyn er mwyn arbed costau; nid oedd yn hyfyw o safbwynt ariannol iddynt dderbyn yr eitemau hyn mwyach a dylai busnesau ddefnyddio busnesau preifat—ond nid oes unrhyw fusnes preifat sy’n gallu dod i mewn i’r ardal am ei bod mor wledig; nid yw’n ymarferol yn ariannol iddynt hwy wneud hynny chwaith. Felly, mae llawer o wastraff ailgylchu naill ai’n pentyrru neu’n cael ei roi i mewn gyda’r gwastraff gweddilliol. Nid dyna y mae’r cwmni am ei wneud. Maent yn ei roi yn y gwastraff gweddilliol, ac mae’n costio mwy o arian i wneud hynny hefyd, wrth gwrs. Felly, i bob pwrpas, mae hon bellach yn dreth ar fusnesau gwledig, oherwydd ni fydd neb arall yn derbyn eu gwastraff ailgylchadwy.
Paul Martin—nid busnes yw hwn, mae’n un o gynheiliaid y gymuned leol yng Ngheri. Nawr, mae’n gwneud y pwynt fod y bobl yn ei bentref yn arfer ailgylchu’n dda iawn, ond wedyn, wrth gwrs, cafodd y cyngor wared ar y cyfleuster ailgylchu yn y pentref a dywedwyd wrthynt i gyd am fynd i’r dref nesaf, ‘Ewch i’r Drenewydd, ewch â’ch holl wastraff ailgylchadwy yno.’ Ond y peth yw, mae’r cyngor yn awr yn bwriadu cau naill ai hwnnw neu gyfleuster ailgylchu’r Trallwng. Felly, dyma’r achos y mae yntau’n ei ymladd hefyd. Rydym yn gwybod, y llynedd, fod y cyngor wedi cau cyfleuster ym Machynlleth ac wedi dweud wrth eu holl drigolion yno, ‘Rhaid i chi fynd â’ch gwastraff ailgylchu i’r Drenewydd yn awr’. Dyna daith gron o 60 milltir. Felly, pan euthum i gymhorthfa gynghori ym Machynlleth y llynedd, daeth un preswylydd yno gyda llwyth o fagiau a dweud, ‘I ble rydych chi’n mynd ar ôl hyn?’, A dywedais, ‘Yn ôl i’r Drenewydd’. Dywedodd, ‘A allwch chi fynd â’r rhain i gyd gyda chi?’, a bu’n rhaid i mi eu rhoi i gyd yn fy nghar, gan gynnwys pot o olew. Dyna daith gron o 60 milltir. Ni allai’r preswylydd fynd â’r eitemau ei hun yn syml am mai beic modur yn unig oedd ganddo. Nid oedd lle iddo ar ei feic modur. Felly, dyna’r broblem. Yr hyn fydd yn digwydd, os yw cyfleuster y Drenewydd yn cau, yw y bydd disgwyl i’r trigolion deithio o Fachynlleth—taith gron o 112 milltir. Felly, rydych yn mynd o ben gorllewinol Cymru yr holl ffordd at y ffin. Dyna’r sefyllfa rydym ynddi. Rwy’n sylweddoli y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, ‘Wel, mater i’r cyngor sir yw hwn’, ond y cwestiwn yw: a yw hyn yn dderbyniol? A oes angen i ni gyflwyno deddfwriaeth, a dof at hynny, ac a ddylai hyn fod yn digwydd? Efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud fy mod yn gynghorydd sir ym Mhowys, ond y gwir amdani yw mai penderfyniad cabinet Cyngor Sir Powys yw hwn, ac mae’n benderfyniad sy’n digwydd ar draws yr awdurdodau gwledig, ble bynnag y boch. Mae’n achos rwy’n ei gyflwyno ac yn dweud, ‘Dyma rywbeth rwy’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn ac ymdrin ag ef.’
Yr achos olaf yw achos Daniel Morgan o barc Cefn Lea, lle y mae ganddynt 20,000 o westeion bob blwyddyn. Roedd yn dweud bod ganddynt 10 o sgipiau i gyd yn mynd i wastraff gweddilliol—roedd y cyfan yn mynd i safleoedd tirlenwi yn flaenorol. Maent wedi newid eu systemau; felly, dau yn unig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ac mae wyth yn cael eu hailgylchu. Nawr, maent yn dychwelyd i’r sefyllfa lle y bydd pob un yn mynd i safleoedd tirlenwi eto. Mae hyn ar y rhagdybiaeth, er enghraifft, fod ganddynt lawer o wastraff bwyd. Mae’r cyngor bellach yn dweud, ‘O’r wythnos nesaf ymlaen, nid ydym yn mynd i fod yn casglu eich gwastraff bwyd mwyach; mae’n rhaid i chi fynd ag ef eich hun i’r ganolfan ailgylchu’, ond nid oes ganddynt gerbyd i fynd â’u gwastraff bwyd i’r ganolfan ailgylchu, a dyna’r sefyllfa y maent ynddi.
Hoffwn hefyd gyflwyno un achos olaf, sef siop Dafarn Newydd, siop fechan yn Llanwddyn, y bydd eu casgliad ailgylchu masnachol yn dod i ben ddiwedd yr wythnos hon. Mae’r siop wedi fy hysbysu na chawsant wybod ymlaen llaw fod y gwasanaeth yn cael ei adolygu, a bod y cyngor wedi dweud yn syml y bydd hyn yn digwydd o’r wythnos nesaf ymlaen. Anfonais e-bost at y cyngor am hyn—yr aelod o’r Cabinet—a dyma’r ateb a gefais. Rwy’n darllen oddi ar y sgrin: ‘Rydym yn dal i allu darparu casgliad gwastraff gweddilliol masnachol, h.y. heb fod yn ailgylchadwy, ond ni allwn gyfiawnhau’r gost o gasglu deunydd ailgylchu. Felly, yn anffodus, yr unig opsiwn yw i’r masnachwyr yr effeithir arnynt roi’r holl wastraff yn y bin gweddilliol, neu fynd ag ef i’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref drwy gynllun trwyddedau.’ Maent wedi rhoi cyngor i mi mewn gwirionedd y dylwn ddweud wrth y busnes am ei roi i mewn gyda gwastraff gweddilliol. Dyma’r sefyllfa yr ydym ynddi. Wrth gwrs, mae’n daith gron o 70 milltir iddo, ac os yw’r ganolfan ailgylchu honno’n cau, yna mae’n mynd i fod yn bellter pellach byth.
Ymwelais â nifer o ganolfannau ailgylchu fy hun o gwmpas Sir Drefaldwyn ar sawl achlysur, a gwelais â’m llygaid fy hun pa mor boblogaidd yw’r canolfannau, gyda rhesi o bobl yn aml yn ffurfio. Mae hynny’n dda, onid yw? Dyna rydym ei eisiau. Felly, wrth gwrs, rwy’n pryderu am y cyfyngu ar oriau agor rhai o’r canolfannau hyn, a hefyd y perygl y bydd un ohonynt yn cau. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried newid y ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio yn hyn o beth. Rwy’n edrych ar Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n datgan bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i’w drigolion lle y gallant fynd â’u gwastraff cartref. Felly, credaf fod gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae yma yn diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd, nad yw’n addas i’r diben ar hyn o bryd yn fy marn i. Nid yw’n sefyllfa dderbyniol mai un ganolfan ailgylchu yn unig a geir drwy sir gyfan—ac rwy’n meddwl am siroedd gwledig fel Powys. Nid yw’n addas i’r diben, ac mae angen diweddaru’r ddeddfwriaeth. Cafodd ei chyflwyno, wrth gwrs, cyn ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, pan gafodd ei chyflwyno, roedd yna dri chyngor ym Mhowys mewn gwirionedd. Dyma’n union pam y mae angen ei diweddaru.
Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd yr hyn a ddywedais yn y ddadl fer hon heddiw, a’r hyn a ddywedodd y trigolion yn yr astudiaeth achos a ddangoswyd yn gynharach, yn argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet o’r angen i ddiwygio’r Ddeddf, a hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gymell a chynyddu cyfraddau ailgylchu. Byddai’n economi ffug pe baem yn lleihau cost rheoli gwastraff ar y naill law ac yna, ar y llaw arall, ein bod yn ei weld yn effeithio’n andwyol ar gyfraddau ailgylchu a throseddau amgylcheddol.
Rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i grybwyll y materion hyn yn y ddadl fer heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at gael ateb cadarnhaol ac adeiladol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Nid yw dweud wrthyf y byddai’n well gennych weld Cyngor Sir Powys yn datrys y mater yn dda i ddim; cynghorydd ar feinciau cefn cyngor sir Powys wyf fi, ac aelodau’r cabinet sy’n gwneud y penderfyniadau. Nid mater i Bowys yn unig yw hwn—mae’n fater i bob awdurdod gwledig, ac rwy’n gobeithio y gallaf weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno deddfwriaeth i ddatrys y mater. Rwy’n rhoi un funud i Darren Millar.
Diolch i chi, Russell, ac a gaf fi eich llongyfarch ar ddod â’r mater hwn i sylw’r Cynulliad Cenedlaethol? Nid wyf yn mynd i siarad am gasgliadau bin bob pedair wythnos heddiw ac effaith hynny ar ymddygiad ac ymgysylltiad pobl gydag ailgylchu, sy’n negyddol iawn, gallaf ddweud wrthych. Ond rwyf eisiau siarad am fynediad at safleoedd amwynder dinesig, oherwydd mae llawer iawn o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan aelwydydd nad yw’n cael ei gasglu ar ymyl y ffordd yn ardal fy awdurdod lleol fy hun yng Nghonwy. Nid yw trigolion lleol yn ne’r sir honno yn gallu cael mynediad at safleoedd amwynderau dinesig yn ardaloedd yr awdurdodau lleol cyfagos. Yn syml, ni chânt fynd i safle yn Sir Ddinbych er mwyn cael gwared ar eitemau trydanol bach neu wastraff sydd wedi’i greu o ganlyniad i hen ddodrefn, neu unrhyw beth felly. Yn anffodus, cânt eu gorfodi i wneud taith gron o ddwy awr o hyd i’w safle amwynder dinesig agosaf, sydd ar yr arfordir yng Nghonwy, sefyllfa sy’n amlwg yn annerbyniol. Felly, rwy’n llwyr gefnogi’r hyn y mae Russell George wedi ei ddweud am yr angen i edrych ar fynediad at y mathau hyn o safleoedd ailgylchu ac amwynder dinesig i wneud yn siŵr fod deiliaid tai unigol yn ogystal â busnesau yn gallu cael budd o hyrwyddo ailgylchu a’i wneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr lleol. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Llywodraeth i’w ddweud ynglŷn â’r hyn y gall ei wneud i hwyluso mynediad.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ymateb i’r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Russell George, am gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Fel y dywedoch yn eich sylwadau agoriadol, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod wedi gosod ein cyfeiriad fel arweinydd ym maes ailgylchu a rheoli gwastraff. Ni yw’r uchaf yn y DU, a’r pedwerydd uchaf yn Ewrop. Credaf yn wir y bydd ein huchelgeisiau a’n targedau yn mynd â ni i’r safle uchaf yn Ewrop, a’r byd wedyn fe gredaf, yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Ond rwy’n credu hefyd fod yn rhaid i ni dalu teyrnged i’r cyhoedd. Fe ddywedoch ein bod wedi mynd â’r cyhoedd gyda ni ar y daith hon, ac mae ein targedau ailgylchu wedi eu cyrraedd oherwydd y ffordd y mae’r cyhoedd wedi agor eu breichiau i hyn. Rwy’n credu fy mod wedi dweud yn y ddadl a gawsom ddoe—mae’n ail natur bellach i gymaint o bobl yng Nghymru.
Felly, er fy mod yn cytuno bod yna heriau i fusnesau a thrigolion yng nghefn gwlad Cymru, rwy’n meddwl bod yna gyfleoedd yn ogystal. Mae gan awdurdodau gwledig fel Powys heriau penodol wrth gwrs, ac mae pellteroedd rowndiau casglu gwastraff gwledig, fel rydych wedi sôn, yn fwy, a chyfleusterau megis canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu yn aml yn bellach i ffwrdd i drigolion nag yn ein hawdurdodau mwy trefol. Ond rwy’n credu fod angen i ni fod yn ofalus iawn sut rydym yn disgrifio ein hawdurdodau lleol. Mae gan rai awdurdodau dinesig a’r Cymoedd ardaloedd gwledig, tra bo gan lawer o awdurdodau gwledig drefi gweddol fawr. Rwy’n credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffactorau hyn pan fyddant yn cynllunio ac yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau i fusnesau a thrigolion. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn—ac eto, fe gyfeirioch chi at hyn—nad oes rhwystrau’n cael eu rhoi yn ffordd pobl.
Rwyf hefyd yn meddwl bod awdurdodau gwledig yma yng Nghymru wedi rheoli’r heriau hyn yn dda iawn. Y llynedd, cyflawnwyd cyfradd ailgylchu drefol o 60.2 y cant yng Nghymru. Os edrychwch yn fanwl ar y ffigurau hynny ac edrych ar yr awdurdodau penodol, cyflawnodd awdurdodau gwledig gyfartaledd o 62 y cant; cyflawnodd awdurdodau yn y Cymoedd 59.3 y cant; ac awdurdodau trefol 59 y cant. Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymgynghori ar leihau nifer y canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu a ddarperir ganddynt, ac rwy’n gwybod bod rhai safleoedd wedi cau. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig, pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried a ddylent gau safle, neu hyd yn oed agor safle, fod angen iddynt edrych ar beth y mae archfarchnadoedd yn ei gynnig gyda’u safleoedd da iawn ar gyfer derbyn deunydd—banciau ailgylchu, er enghraifft—a chasgliadau ymyl y ffordd da hefyd.
Mae Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am chwarter arwynebedd Cymru, felly gallwch weld yn union pa mor fawr ydyw, ac mae ganddynt lawer o ardaloedd tenau eu poblogaeth lle y gall darparu gwasanaethau fod yn her, rwy’n gwybod. Ond rwy’n deall bod Powys, er gwaethaf yr heriau hyn, yn gwneud—[Torri ar draws.] Iawn.
Derbyniaf eich pwynt ynglŷn â dod â deunydd i ganolfannau mewn archfarchnadoedd, er enghraifft, ond ni all busnes wneud hynny. Pe bai busnes yn gwneud hynny, buasent yn cael eu dirwyo.
Na, yn hollol. Roeddwn yn gwneud pwynt cyffredinol yn unig fod yna safleoedd da iawn bellach sy’n derbyn deunydd ailgylchu, ac mae’n rhaid eu hystyried. Ond rydych yn llygad eich lle—yn amlwg, ni all busnesau eu defnyddio.
Felly, er gwaethaf yr heriau y credaf fod Powys yn eu hwynebu, maent yn gwneud cynnydd rhagorol ar ailgylchu, ac unwaith eto, maent wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu cyfradd ailgylchu o’r 59.1 y cant a gofnodwyd y llynedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai sydd ag ardaloedd gwledig mawr, drwy ein rhaglen newid gydweithredol. Ein nod yw helpu awdurdodau i wella cyfraddau ailgylchu drwy ddarparu gwasanaethau rhagorol, nid yn unig i breswylwyr, ond i fusnesau hefyd. Rwy’n cyfarfod ag awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â gwastraff. Ddydd Llun nesaf byddaf yn cadeirio cyfarfod o’r bwrdd rhaglen gweinidogol ar wastraff i drafod yr heriau hyn ymhellach. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw trosi ein cyfraddau ailgylchu trefol trawiadol yn swyddi lleol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddi ac adfywio cymunedol. Dyna’r economi gylchol y soniwn amdani. Ac mae’n rhaid i mi ddweud bod eich fideo wedi profi’r pwynt hwnnw’n fwy na dim, sef os nad oes cyfleusterau ym Mhowys ar gyfer y deunyddiau ailgylchadwy hyn, nid ydym yn mynd i gyflawni’r economi gylchol honno. Felly, buaswn yn awgrymu bod hynny’n rhywbeth y gellid edrych arno o bosibl.
Mae pob awdurdod lleol yn rhan o’r agenda optimistaidd hon sy’n gwella bywydau y credaf ei bod yn cael ei chyflawni ar gyfer, a chan bobl a chymunedau Cymru. Rwy’n falch iawn o ddathlu’r ffaith fod Cymru yn arweinydd byd yn y maes hwn. Soniais am gyfraddau ailgylchu da iawn Powys, felly fe heriaf Russell George: fel cynghorydd, gallwch gymryd y clod am hynny, ond i’r un graddau, rydych yn rhan o’r ateb, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am fod yn aelod o’r meinciau cefn, ond mae’n bwysig iawn fod cyngor Powys yn darparu’r cyfleusterau hyn.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.