<p>Morlyn Llanw yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:32, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n siŵr y buasech yn cytuno â mi y dylid croesawu adolygiad Hendry, a’r gefnogaeth gadarnhaol ynddo i ddatblygiadau môr-lynnoedd llanw ar draws Cymru. I ni yng ngogledd Cymru, buasai prosiect o’r fath yn darparu diogelwch hanfodol rhag llifogydd, yn darparu cyflogaeth sylweddol a chyfle ar gyfer mewnfuddsoddi economaidd, ac yn cyfrannu tuag at helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes ynni adnewyddadwy. Mae nifer o randdeiliaid eisoes wedi addo eu cefnogaeth, ac rwy’n falch eich bod yn addo eich cefnogaeth mewn egwyddor. Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn addo eu cefnogaeth i dechnoleg môr-lynnoedd llanw yng Nghymru. Ond a wnewch chi gefnogi hynny hefyd, os gwelwch yn dda, gydag ymrwymiad i ddarparu’r cyllid y bydd ei angen ar gyfer gwireddu’r prosiect?