Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 25 Ionawr 2017.
Wel, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect, a byddaf yn cyfarfod â Charles Hendry yn ddiweddarach y prynhawn yma i siarad am y prosiect braenaru yn arbennig, a fuasai’n arwain yn y pen draw at greu morlyn llanw yng ngogledd Cymru. Mae’n brosiect a allai greu 27,000 o swyddi ar gyfer economi gogledd Cymru. Buasai hefyd, fel y nododd yr Aelod, yn cyfrannu at amddiffyn cymunedau arfordirol, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n peri llawer iawn o bryder i Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhywbeth y siaradais yn ei gylch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn ddiweddar iawn. Felly, rydym yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r prosiect hwn. Rydym yn gefnogol ac wrth gwrs, fe fyddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gyda’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod y sgiliau yno ar gyfer cyflwyno’r prosiect mewn modd amserol, pe bai’n mynd yn ei flaen.