<p>Morlyn Llanw yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:34, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn, a diolch iddo hefyd am ddarn craff iawn ar ei wefan, yn ymwneud â’r economi las. Rwy’n credu ei bod yn amserol iawn ein bod yn sôn am y pwnc hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer 2018, a ddynodwyd yn Flwyddyn y Môr. Ac i’r diben o chwyddo niferoedd ymwelwyr, wrth gwrs, bydd yr economi las yn gynyddol bwysig.

O ran cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli, rydym wedi ymrwymo i fanteisio ar bob prosiect seilwaith economi las mawr ar draws Cymru, gan gynnwys prosiect braenaru morlyn llanw Bae Abertawe, yn amodol, wrth gwrs, ar sicrhau’r caniatadau angenrheidiol. Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr fod cymunedau arfordirol yn manteisio, nid yn unig ar fentrau megis Blwyddyn y Môr, ond hefyd ar brosiectau seilwaith mawr, a bod y gadwyn gyflenwi o amgylch Cymru, ac yn enwedig mewn cymunedau arfordirol, yn gallu manteisio ar y cyfleoedd mawr hynny ar gyfer twf economaidd.