Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mi oedd hi’n braf clywed Charles Hendry yn briffio Aelodau’r Cynulliad amser cinio, ac un o’r pwyntiau roedd e’n ei wneud wrth gwrs, yw mai’r argymhelliad ganddo fe nawr bod oedi ar ôl datblygu’r prosiect cyntaf er mwyn dysgu nifer o’r gwersi. Mae rhywun yn deall pam byddai hynny yn fanteisiol, ond mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth y byddai hynny efallai yn achosi problemau i’r gadwyn gyflenwi newydd rydym yn gobeithio ei ffurfio a’i datblygu o gwmpas y project yn Abertawe. A, thra’i fod e’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos cynllun tymor hir o safbwynt prosiectau mawr, mae e hefyd yn awgrymu bod angen edrych ar gyfres o brosiectau llai er mwyn cynnal y gadwyn gyflenwi yna yn yr interim, nes ein bod ni’n cyrraedd y pwynt lle gallwn ni fod yn hyderus i symud ymlaen gyda nifer o brojectau mwy. Felly, a gaf i ofyn pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adnabod y potensial am gyfres o brosiectau llai o gwmpas arfordir Cymru, er mwyn sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yna yn cael y cynaliadwyedd a’r sicrwydd tymor canol y mae ei angen er mwyn goroesi yn y tymor hir?