Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mae pwynt yr Aelod yn un pwysig iawn, ac rwyf wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i gael ffrwd gyson o fuddsoddiadau seilwaith mawr, ond un sydd hefyd yn cynnwys buddsoddiadau llai yn rhan o’r gymysgedd fel bod modd cynnal pobl a chyflogaeth wrth aros neu bontio o un prosiect mawr i’r llall. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, gyda darparwyr sgiliau, a chyda busnesau, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu nodi ffrâm amser ar gyfer cyflawni prosiectau mawr, ond hefyd un sy’n sicrhau, rhwng y prosiectau mawr, ein bod yn gallu nodi cyfleoedd i gwmnïau dyfu a ffynnu o brosiectau ar raddfa lai.
Un o’r materion allweddol y byddaf yn tynnu sylw atynt y prynhawn yma gyda Charles Hendry, ac mae’n rhywbeth y mae’r Aelod eisoes wedi ei grybwyll, yw pa mor hir y rhagwelir y bydd y rhaglen fraenaru’n para, oherwydd fel y mae’r Aelod yn gywir i ddweud, bydd yn arwain at sgil-effeithiau, nid yn unig ar brosiect bae Abertawe, ond hefyd ar brosiectau môr-lynnoedd llanw ledled Cymru.