Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 25 Ionawr 2017.
Hoffwn ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd hon, rwyf wedi ymgymryd â nifer o gyfleoedd ymgysylltu â’r gymuned fusnes, ac mae’r pwyntiau a nododd yr Aelod heddiw wedi cael eu mynegi wrthyf ar sawl achlysur. Am y rheswm hwnnw, bûm yn ymwneud yn uniongyrchol ac yn adeiladol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn y gwaith o ddrafftio’r Papur Gwyn, a fydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir, ar lywodraeth leol. Ac rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol i ni gydnabod bod yna rwystrau sy’n dal i fodoli sy’n atal twf economaidd. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i bob adran yn y Llywodraeth fynd ati’n ffurfiol i ddrafftio cynllun cystadleurwydd a all danio twf economaidd yn y sector preifat.