2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y mae wedi’u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â thwf busnesau yng Nghymru? OAQ(5)0111(EI)
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r Cabinet yn ehangach, i drafod ystod o faterion economi a seilwaith yn fy mhortffolio, gan gynnwys, wrth gwrs, twf busnes.
Diolch am hynny, oherwydd fel y byddwch yn cydnabod, mae datblygu a thyfu busnes yn yr hinsawdd heddiw yn anos nag erioed ac mae perchnogion busnes yn cyfeirio at nifer o broblemau sy’n rhwystr i dwf eu busnesau—mae diffyg benthyca a chyfalaf strwythuredig gan y sector bancio yn un. Fodd bynnag, mae llawer yn siarad am y rhwystrau o gyfeiriad yr awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, yn amrywio o Cyfoeth Naturiol Cymru i’r seilwaith trafnidiaeth. Mae cynllunio’n allweddol, ac rwy’n cydnabod nad chi a’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid sy’n gyfrifol am hynny. Ond yr hyn rwy’n ceisio’i ganfod mewn gwirionedd yw ymdeimlad fod yna strategaeth gydlynol o gwmpas bwrdd y Cabinet sy’n annog ac yn grymuso busnesau i ffynnu. Mae’r economi yn hollbwysig i ni. Beth arall y gellid ei wneud yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau nad yw oedi anamserol, diffyg gweledigaeth a meddwl di-drefn yn y gwasanaethau cyhoeddus yn amharu ar dwf ein hiechyd economaidd?
Hoffwn ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd hon, rwyf wedi ymgymryd â nifer o gyfleoedd ymgysylltu â’r gymuned fusnes, ac mae’r pwyntiau a nododd yr Aelod heddiw wedi cael eu mynegi wrthyf ar sawl achlysur. Am y rheswm hwnnw, bûm yn ymwneud yn uniongyrchol ac yn adeiladol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn y gwaith o ddrafftio’r Papur Gwyn, a fydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir, ar lywodraeth leol. Ac rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol i ni gydnabod bod yna rwystrau sy’n dal i fodoli sy’n atal twf economaidd. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i bob adran yn y Llywodraeth fynd ati’n ffurfiol i ddrafftio cynllun cystadleurwydd a all danio twf economaidd yn y sector preifat.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd eich rhagflaenydd ardaloedd menter fel modd o fynd ati i dyfu’r economi mewn ardaloedd penodol ledled Cymru, a’r llynedd, cyflwynodd ardal fenter ym Mhort Talbot. Beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch cyd-Aelodau i sicrhau y gellir ymestyn y lwfansau cyfalaf uwch y tu hwnt i’r amser a roddwyd i ni eisoes, fel y gellir sefydlu’r ardal fenter, sy’n mynd i gymryd sawl blwyddyn i ymsefydlu fel y gŵyr pawb ohonom, yn hytrach na blwyddyn yn unig? Dywedodd wrthyf hefyd mewn trafodaethau rhyngom fod angen lwfansau cyfalaf i adeiladu’r safleoedd a thyfu gofod, sef troedfeddi sgwâr nad oes gennym mohonynt mewn mannau eraill yng Nghymru, er mwyn caniatáu i fusnesau ddod i mewn a’u defnyddio, gan eu galluogi i dyfu.
Mae hwn yn un o’r pwyntiau a gafodd eu dwyn i fy sylw gan Chris Sutton ar sawl achlysur yn ystod, unwaith eto, y rhaglen ymgysylltu a gefais gyda busnesau. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cydnabod bod llawer o’r safleoedd a adeiladwyd i ddenu buddsoddwyr yn awr yn cyrraedd pwynt lle y mae angen buddsoddi’n helaeth ynddynt neu adeiladu rhai newydd. Felly, mae’n mynd i fod yn agwedd gynyddol bwysig o’r strategaeth ffyniannus a diogel, wrth i ni symud ymlaen at y cyfnod ôl-Brexit.
Rwy’n credu hefyd o ran ardaloedd menter a’r gefnogaeth y gallasom ei darparu drwy ardrethi busnes, eisoes rydym wedi gallu cefnogi 200 o fusnesau gydag oddeutu £9 miliwn o gyllid drwy’r cynllun. Ond mae yna ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru weithredu fel galluogydd twf economaidd a thwf busnesau, ac wrth gwrs, mae darparu safleoedd modern addas i’r diben yn un o’r ffyrdd y gallwn annog twf economaidd a ffyniant.
Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae cynigion i ddatblygu cylchffordd Cymru wedi bod yn cylchredeg ers peth amser. Hyd yn hyn, mae’r tîm prosiect wedi methu codi’r arian angenrheidiol ar gyfer y prosiect. A fuasech yn gallu amlinellu pa ddatblygiadau a gafwyd yn ddiweddar?
Fel yr Aelod, rwy’n pryderu bod prosiect cylchffordd Cymru wedi cael ei drafod yn gyhoeddus ers blynyddoedd lawer heb fod y tîm eto wedi gallu codi’r cyllid preifat sy’n angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r prosiect. Mae’r cynigion wedi newid, wrth gwrs, dros y blynyddoedd, ers 2011. Fis Gorffennaf diwethaf, dywedais yn glir beth yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Nodais yn glir yn y Siambr ein bod angen i’r sector preifat ysgwyddo o leiaf 50 y cant o’r cyfalaf a 50 y cant o risg y prosiect. Pe bai hynny’n digwydd, byddwn yn ystyried unrhyw gynnig newydd yn erbyn y profion gwerth am arian a diwydrwydd dyladwy priodol. Mae pobl Glynebwy, fel y mae’r Aelod eisoes wedi nodi, yn haeddu cael gwybod a yw’r prosiect hwn yn mynd i ddigwydd, ac os ydyw, pa bryd, sy’n hollbwysig. Rwy’n awyddus i osgoi’r costau cyfle sy’n gysylltiedig â phrosiect heb ddyddiad cwblhau terfynol. Felly, ysgrifennais at gorfforaeth datblygu Blaenau’r Cymoedd heddiw, yn gofyn iddynt wneud cynnydd cyflymach ar y prosiect hwn ac yn gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth i mi o ddogfennau amodau buddsoddwr a enwir o fewn y pythefnos nesaf.