<p>Twf Busnesau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:40, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn un o’r pwyntiau a gafodd eu dwyn i fy sylw gan Chris Sutton ar sawl achlysur yn ystod, unwaith eto, y rhaglen ymgysylltu a gefais gyda busnesau. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cydnabod bod llawer o’r safleoedd a adeiladwyd i ddenu buddsoddwyr yn awr yn cyrraedd pwynt lle y mae angen buddsoddi’n helaeth ynddynt neu adeiladu rhai newydd. Felly, mae’n mynd i fod yn agwedd gynyddol bwysig o’r strategaeth ffyniannus a diogel, wrth i ni symud ymlaen at y cyfnod ôl-Brexit.

Rwy’n credu hefyd o ran ardaloedd menter a’r gefnogaeth y gallasom ei darparu drwy ardrethi busnes, eisoes rydym wedi gallu cefnogi 200 o fusnesau gydag oddeutu £9 miliwn o gyllid drwy’r cynllun. Ond mae yna ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru weithredu fel galluogydd twf economaidd a thwf busnesau, ac wrth gwrs, mae darparu safleoedd modern addas i’r diben yn un o’r ffyrdd y gallwn annog twf economaidd a ffyniant.