Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, cafodd fy nghyd-bleidwyr a minnau ein condemnio’n hallt am fynegi ein cred ddiffuant, a adleisiwyd gan lawer o weithwyr dur, fod angen gwella’r pecyn presennol o gynigion a gafwyd gan Tata yn sylfaenol i’w wneud yn deg ac yn dderbyniol i’r gweithwyr. Felly braf oedd gweld fel pennawd yn y ‘Llanelli Star’ yn gynharach yr wythnos hon y llun hwn o’r AC dros Lanelli a’r AS dros Lanelli, o dan y pennawd, ‘Leading Llanelli politicians tell Tata Steel: “Re-think pension deal”‘. Nawr, dywedodd AS Llafur Llanelli am gynigion Tata fod gan weithwyr dur bob hawl i fod yn ddig a mynegodd ei gobaith nad yw’n rhy hwyr hyd yn oed yn awr, ychydig ddyddiau cyn y bleidlais, i Tata edrych eto a chynnig bargen well, er ein bod wedi clywed y ddadl, wrth gwrs, gan rai ar feinciau Llafur nad oes unrhyw ddewis arall. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Amddiffyn fod gweithwyr yn iawn i fod yn ddig a bod angen i Tata ailfeddwl ei gynigion ar frys?