Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y dylai gweithwyr fod yn bryderus ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur, ond nid yw gwleidyddoli’r hyn sy’n fater eithriadol o sensitif yn gwneud unrhyw ffafr â neb. Nid yn aml y byddaf yn cytuno ag arweinydd yr wrthblaid, ond rwy’n meddwl ei fod yn iawn i drydar nad oedd unrhyw le i ymhonni gwleidyddol yn yr hyn sy’n ddadl hynod o bwysig am bensiynau, a allai bennu cynaliadwyedd hirdymor y diwydiant dur yn sgil hynny. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r Aelod dros Lanelli wedi’i ddweud yn adlewyrchu’r pryder, nid yn unig yn y Siambr hon, ond yn y cymunedau ehangach lle y mae dur mor bwysig, y dylai fod y cynnig gorau posibl i weithwyr dur ar y bwrdd ar gyfer eu pensiynau, ond dyma’r unig gynnig sydd yno ar hyn o bryd, ac mae’r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir iawn yn ein barn y dylai’r ddadl gael ei chynnal heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol o gwbl.