Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 25 Ionawr 2017.
Roeddwn yn falch o allu siarad yn helaeth â Greg Clark ddydd Llun cyn cyhoeddi’r strategaeth. Roeddwn yn cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y byddai cydgadeiryddiaeth y fforwm yn rhywbeth y buaswn yn ei ddymuno. Siaradais gydag ef hefyd am gytundeb penodol ar gyfer y sector dur—mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn ystod yr wythnosau nesaf.
Roeddwn yn synnu cyn lleied o gyfeirio at ddur a geir yn y strategaeth. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud yn glir fy mod yn dymuno gweld dur yn dod yn elfen bwysig o waith y strategaeth ddiwydiannol wrth symud ymlaen. Rwyf hefyd yn awyddus—mae’r Aelod yn ymwybodol fy mod yn awyddus—i ddatganoli lle bynnag y bo’n bosibl. Felly, pa un a yw’n ymwneud â buddsoddi neu arloesedd, hoffwn weld mwy o gyfleoedd yn cael eu rhoi i gwmnïau y tu allan i’r ardaloedd trefol iawn lle y lleolir sefydliadau ariannol a chyrff arloesi yn draddodiadol.