Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 25 Ionawr 2017.
Wrth gwrs, yn aml, mae’n rhy hawdd ymosod ar Lywodraeth y DU, ac weithiau maent yn ei wneud yn rhy hawdd i ni, ond mae rhai pethau y gallwn eu dysgu yma, yn sicr. Mae ganddynt strategaeth o leiaf. Chwe mis yn unig a gymerodd i’r weinyddiaeth newydd gynhyrchu strategaeth ddiwydiannol. Ble mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru a addawyd i ni ym mis Mehefin? A yw’r gwaith ymchwil wedi’i gomisiynu? Pa bryd y cawn weld drafft? A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gydraddoli buddsoddiadau seilwaith rhwng y rhanbarthau? Mae yna fwlch 5:1 rhwng de-ddwyrain Lloegr a Chymru; mae yna fwlch 3:1 rhwng de-ddwyrain Cymru a fy rhanbarth i. A wnaiff ymrwymo i leoli Awdurdod Refeniw Cymru y tu allan i’r de-ddwyrain? Mae’n dda gweld y penderfyniad ar fin digwydd ar Gylchffordd Cymru, ond a fydd prosiectau buddsoddi eraill y tu allan i’r de-ddwyrain sydd wedi bod yn gorffwys ar ei ddesg weinidogol, fel Yr Egin yng ngorllewin Cymru, yn gweld penderfyniad yn cael ei wneud o’r diwedd fel y gallwn fwrw rhagom i greu buddsoddiad a swyddi y tu allan i un cornel o Gymru?