Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n credu y dylai’r Aelod ystyried yr hyn a ddywedodd ei gyd-Aelod ddoe ynglŷn â sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ddilyn a’i gyflawni’n drylwyr—mae’n gwbl hanfodol. Felly, boed yn Yr Egin neu unrhyw brosiect arall, rydym yn cyflawni diwydrwydd dyladwy yn hytrach na rhuthro ar frys i mewn i fuddsoddiad nad yw efallai’n cynnig y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr.
O ran strategaeth Llywodraeth y DU, er bod yr Aelod efallai’n dymuno anwybyddu’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn bodoli, ni fyddwn yn anwybyddu’r ffaith honno. Un o’r negeseuon a fynegwyd yn glir gan fusnesau ar hyd a lled Cymru tra bûm yn ymgynghori â hwy dros gynnwys a gweledigaeth ein strategaeth yw bod angen i ni ystyried yr hyn y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn ei olygu i Gymru. Ni allem fod wedi cynhyrchu strategaeth nad oedd yn ystyried elfennau allweddol gweledigaeth Llywodraeth y DU, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio.