<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:49, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod busnesau bach yn hanfodol bwysig, wrth gwrs, i economi Cymru. Ond rhaid i mi ddweud nad yw busnesau bach wedi cael y sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Datganolwyd ardrethi busnes ers peth amser, ac mae busnesau’n dal i fod o dan anfantais sylweddol o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr—yn wir, maent yn crefu am gymorth. O gofio y bu gostyngiad o 26 y cant yn nifer y busnesau newydd ers 2011, a ydych yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi’r diogelwch sydd ei angen arnynt i ddarpar entrepreneuriaid a busnesau drwy godi gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach o 1 Ebrill eleni?