<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:50, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, o ran rhyddhad ardrethi busnes, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth sydd yn nwylo fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond yr hyn rwy’n falch yn ei gylch yw bod y cynllun yn mynd i gael ei ymestyn ar gyfer 2017-18, a bydd cynllun parhaol newydd yn bodoli o 2018 ymlaen. Rydym eisoes yn darparu oddeutu £98 mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau yn 2016-17. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi, oherwydd eich bod wedi cymharu’n uniongyrchol â Lloegr, fod oddeutu 70 y cant o fusnesau yn gymwys i gael rhyddhad, ac nid yw oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.