<p>Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:08, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Fel yr wyf newydd ei ddweud wrth Neil McEvoy, rwy’n meddwl bod cludiant cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o fewn y cymysgedd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio cludiant cymunedol yn y cyfnod diweddar. Rwyf o’r farn fod trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl arbennig o bwysig i bobl sy’n methu defnyddio bysiau neu drenau confensiynol neu sydd ag anghenion iechyd penodol. Rwyf am i’r sector cludiant cymunedol fod yn rhan o’r ateb ar gyfer fy nghynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhewi a chynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn, sydd ar gael i drafnidiaeth gymunedol, ac rwy’n falch iawn fod y gronfa’n cael ei defnyddio gan lawer o’r gweithredwyr o gwmpas Cymru.