2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.
5. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl? OAQ(5)0116(EI)
Rydym yn gwbl ymroddedig i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl sy’n cael gwared ar rwystrau i deithio, sy’n grymuso pobl ac sy’n hybu byw’n annibynnol, yn hytrach na’i lesteirio. Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn grymuso grwpiau agored i niwed i gymryd rhan ym mywyd y gymdeithas, a dyna yw un o gonglfeini ‘Symud Cymru Ymlaen’.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw gynlluniau i gynyddu rôl cludiant cymunedol yn y dyfodol, fel rhan o’r gymysgedd o drafnidiaeth sydd ar gael? Yr wythnos diwethaf, ymwelais â VEST a gweld ei fod wedi’i lethu gan geisiadau gan bobl yn gofyn am help i fynd i ganolfannau dydd ac i apwyntiadau meddyg, ac roedd yn ymddangos i mi fod yna rôl allweddol i gludiant cymunedol yn y dyfodol. Felly, pa gynlluniau sydd ganddo?
Fel yr wyf newydd ei ddweud wrth Neil McEvoy, rwy’n meddwl bod cludiant cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o fewn y cymysgedd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio cludiant cymunedol yn y cyfnod diweddar. Rwyf o’r farn fod trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl arbennig o bwysig i bobl sy’n methu defnyddio bysiau neu drenau confensiynol neu sydd ag anghenion iechyd penodol. Rwyf am i’r sector cludiant cymunedol fod yn rhan o’r ateb ar gyfer fy nghynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws Cymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu rhewi a chynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn, sydd ar gael i drafnidiaeth gymunedol, ac rwy’n falch iawn fod y gronfa’n cael ei defnyddio gan lawer o’r gweithredwyr o gwmpas Cymru.
A gaf fi ganmol Julie Morgan am dynnu sylw at fater cludiant cymunedol? Oherwydd ar gyfer y bobl fwyaf anabl—sydd fwyaf agored i niwed ac yn lleiaf tebygol o wneud unrhyw fath o daith—mae cludiant cymunedol yn hanfodol. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud fod llawer o arloesi wedi bod tan oddeutu 10 mlynedd yn ôl pan newidiodd y system grantiau rywfaint, ac nid yw wedi cael ei datblygu gyda’r un math o gyflymder ag y gwelwn gyda gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, boed yn rhai gwirioneddol neu arfaethedig. Ond mae yna ffyrdd o ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn modd arloesol ac effeithiol iawn, ond maent yn galw am lefel eithaf uchel o gymhorthdal, ac rwy’n meddwl bod y bobl hyn yn haeddu’r math hwnnw o gymorth gan y gweddill ohonom.
Ni allwn gytuno mwy. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddarpariaeth sy’n grymuso, ac y dylai pob unigolyn yn y gymdeithas ddisgwyl cael mynediad at ffurfiau ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd o ansawdd da. Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod fy mod wedi sefydlu grŵp hygyrchedd i roi cyngor i mi ar y fasnachfraint newydd ar gyfer y rheilffyrdd, ond hefyd gall y grŵp fy nghynghori ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus megis cludiant cymunedol. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod, unwaith eto, fel rhan o’r system gwbl integredig honno, y bydd cludiant cymunedol yn dod yn fwyfwy pwysig ar draws y cymunedau, nid yn unig mewn ardaloedd mwy trefol ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes unrhyw atebion eraill ar gael yn aml.
Y farn gyffredinol ydy bod y cerbydau sy’n cael eu defnyddio gan y fasnachfraint drenau bresennol yng Nghymru o safon wael. Mi fydd angen buddsoddiad sylweddol ynddyn nhw er mwyn gwella ansawdd y stoc sy’n effeithio’n negyddol ar brofiadau teithwyr. Ond, yn ogystal â hynny, erbyn 1 Ionawr 2020, mi fydd angen i’r cerbydau gydymffurfio â’r rheolau newydd ar fynediad ar gyfer pobl anabl. Yn ôl yr arolwg diweddaraf, ni fyddai 73 y cant o gerbydau Cymru a’r gororau yn cyrraedd y safon ofynnol. A ydych chi’n hyderus bod modd i 100 y cant o gerbydau’r fasnachfraint Cymru a’r gororau newydd gyrraedd y safonau hynny erbyn 2020?
Mae’n hanfodol fod y PRM 2020 yn cael ei fodloni gan weithredwyr y fasnachfraint newydd. Mae’r pedwar cynigydd yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau sy’n rhaid iddynt eu bodloni erbyn 2020. Gan ein bod ynghanol proses drafod gystadleuol gyda’r cynigwyr ar hyn o bryd, ni allaf ddatgelu unrhyw fanylion am yr hyn y maent yn ei gynnig, ond gallaf sicrhau’r Aelod ein bod yn canolbwyntio ar ddarparu system drafnidiaeth sydd nid yn unig yn cynnig trafnidiaeth gyflym, ddibynadwy ar gyfer y bobl fwyaf abl, ond sydd yno hefyd ac yn gallu bodloni pob un o’r mesurau cyfredol yn ogystal â’r mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos.
O ran hygyrchedd i ddefnyddwyr rheilffyrdd, rwyf wedi crybwyll y grŵp hygyrchedd a sefydlwyd i roi cyngor ar y fasnachfraint nesaf ac rwyf hefyd wedi gofyn am gytundeb—ac mae wedi cael ei roi—pob un o’r pedwar cynigydd i’r grŵp hwnnw gysylltu’n uniongyrchol â hwy ynglŷn â sut y gallant gyflawni’r rhwymedigaethau a fydd yno yn 2020.