Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch. Mae hynny’n galonogol, gan fy mod yn siomedig iawn nad oedd y cynllun mytravelpass yn mynd i gael ei barhau, yn enwedig gan mai un o’r rhesymau a roddwyd i’r cyfryngau oedd mai ar gyfer teithio’n lleol yn unig yr oedd pobl ifanc yn ei ddefnyddio, er na ddylai hynny fod yn fawr o syndod, yn fy marn i, yn achos rhai 16 a 17 oed. Fy mhryder yw y bydd pobl ifanc yn cael eu hatal rhag cael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau ieuenctid. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch am weithio gydag awdurdodau lleol a’r cydffederasiwn trafnidiaeth bws, ond fy mhrofiad i yn lleol, yn bendant, yw bod gwasanaethau bws yn cael eu torri oherwydd y pwysau cyllido ar awdurdodau lleol. Hoffwn wybod pa werthusiad a wnaethoch o’r cynllun hwn a pha benderfyniadau a’ch arweiniodd i benderfynu dod ag ef i ben.