Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 25 Ionawr 2017.
Dylwn nodi wrth yr Aelod mai cynllun peilot oedd hwn, ac felly, roedd yn rhywbeth y gallwn ddysgu oddi wrtho. Ac rydym wedi dysgu oddi wrtho. Y ffaith amdani yw nad oedd y nifer a fanteisiodd ar y cynllun mor uchel ag y buasem wedi’i ddymuno, a dyna pam rwy’n awyddus iawn i’r rhaglen olynol gyrraedd mwy o bobl ifanc ar draws Cymru. Rwy’n credu bod oddeutu 10,000 o bobl ifanc wedi manteisio ar gynllun mytravelpass; hoffwn weld y rhif hwnnw’n cynyddu’n helaeth gyda’r cynllun sydd i ddod, a gobeithiaf ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.