Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch i chi am yr ateb. Cefais e-bost gan rywun yn Hen Golwyn a oedd yn pryderu am y ffaith fod eu meddyg teulu yn awr yn ymddeol, ac mae 1,200 o’r cleifion yn mynd i gael eu dosbarthu ymhlith gwahanol feddygfeydd. Nawr, mae’n ymddangos i mi mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw meddwl yn greadigol am broblem meddygon teulu sy’n ymddeol, a dod â rhai ohonynt yn ôl o ymddeoliad o bosibl, neu bobl sy’n mynd i fod yn ymddeol, gan eu hannog i barhau ar sail ran-amser. Un o’r prif rwystrau i hyn yw’r ffaith y gall yswiriant indemniad amrywio rhwng £5,000 a £40,000 y flwyddyn i feddyg teulu. Gall Llywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a gweld a allant ddod o hyd i ffordd greadigol i gynorthwyo meddygon teulu i dalu’r costau hyn er mwyn iddynt allu cyflenwi dros feddygon teulu ar y rota?