Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae amrywiaeth o bethau yr ydym eisoes yn siarad amdanynt gyda meddygon teulu a’r gymuned gofal sylfaenol ehangach—mae hynny’n cynnwys yr hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn dewis ymddeol; y modd y mae gan gleifion fynediad di-dor at wasanaeth gofal sylfaenol priodol; a’r math o ymyriadau y gall y bwrdd iechyd eu cyflawni os nad ydynt yn gallu rheoli proses bontio lefn i bractis arall a pharhau. A dweud y gwir, yr hyn a ddylai fod yn destun cysur i’r Aelodau yw na fu unrhyw doriad yn y ddarpariaeth yn yr un o’r achosion lle yr ymddeolodd rhywun a dychwelyd eu contract, daethpwyd o hyd i bractisau newydd i bob claf fynd iddynt, ac mae’r bwrdd iechyd ei hun wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth gofal sylfaenol priodol.
Rwy’n cydnabod y mater penodol a nododd yr Aelod am yswiriant indemniad. Mae’n rhywbeth yr ydym yn cael sgyrsiau gweithredol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yn ei gylch, ac rwy’n obeithiol y gallwn ddod o hyd i ateb yn y dyfodol agos.