Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n meddwl bod yna ddwy ran benodol i’r sylwadau y mae’r Aelod yn eu nodi. Mewn gwirionedd, mae yna gyfarwyddwr gwasanaethau iechyd meddwl parhaol, ac mae’n arwain y ffordd ar ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Felly, dros y misoedd nesaf, fe fyddwch yn gweld gwaith ar y strategaeth iechyd meddwl newydd, sydd ei hangen yn bendant, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl yn un o’r heriau mwyaf sylweddol y mae’r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn y dyfodol, ac mae’n debyg mai dyma’r un a fydd yn cymryd y cyfnod hiraf o amser i’w ddatrys yn iawn. Mewn sawl ffordd, dyna pam ein bod wedi nodi hyd yr amser y disgwyliwn i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig. Rwy’n credu mewn gwirionedd fod y cyfarwyddwr newydd wedi cael effaith sylweddol, ond mae’n bwysig fod hynny’n parhau ac yn cael ei gynnal.
Mae’r ail bwynt y credaf eich bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ymchwiliad sydd ar y gweill. Gwnaeth y bwrdd iechyd y peth iawn mewn gwirionedd yn mynd at y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwiliad priodol ac annibynnol, a’r hyn sydd wedi digwydd yw bod yr ymchwiliad hwnnw wedi ymestyn ac ehangu. Wrth iddynt fynd drwodd, mae mwy o deuluoedd wedi cysylltu â hwy a mwy o gyfweliadau wedi eu cynnal. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent eisoes wedi gorfod adolygu 300,000 o dudalennau o ddogfennau ac mae yna ragor o bobl sy’n dal i fod angen eu cyfweld. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf yw rhoi digon o amser i wneud hyn yn iawn, ac nid wyf am osod unrhyw derfynau amser artiffisial ar gyfer amserlenni a allai beryglu trylwyredd a digonolrwydd yr adroddiad y byddwn yn ei gael yn y pen draw. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod y byddai o fudd i bawb pe gellid ymdrin â’r mater hwn hyd yn oed yn fwy prydlon a chyflym o safbwynt ffrâm amser. Mae yna bobl a fydd eisiau gwybod beth ddigwyddodd, o’r teuluoedd a’r unigolion eu hunain i aelodau staff sydd ynghlwm wrth hyn hefyd. Mae’n fanteisiol i bawb ohonom fod hyn yn digwydd yn gyflym; fodd bynnag, ni ddylai cyflymder yr ymchwiliad beryglu canlyniad a chadernid yr ymchwiliad yn y pen draw. Ond rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â beth rwy’n disgwyl iddynt ei wneud. Mae angen i ni feddwl hefyd ynglŷn â goruchwylio a llywodraethu hyn. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwy’n gobeithio y buasai’r Aelodau’n cefnogi ac yn cydnabod hynny.