Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mae’r bwrdd iechyd, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig nawr ers blwyddyn a hanner, ac rydw i’n cytuno â llawer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r problemau sydd yn bodoli. Ond a fyddech chi’n cytuno â fi bod yna rai materion llawer mwy sylfaenol sydd angen mynd i’r afael â nhw ac a fyddech chi’n cytuno bod angen i dri pheth penodol ddigwydd i’r perwyl hynny? Un yr ydym ni wedi clywed amdano fe yw bod angen mwy o ddoctoriaid a nyrsys er mwyn ateb y galw. Yr ail bwynt, wrth gwrs, yw bod angen gwneud llawer mwy i integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn drydydd, hefyd, mae angen ailagor gwlâu mewn ysbytai cymunedol er mwyn hwyluso’r llif yna o gleifion o’r ysbytai cyffredinol, neu, fel arall, wrth gwrs, nid ydym ni’n mynd i’r afael â’r gwir broblemau.