<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:47, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’n harfau mwyaf effeithiol ar gyfer ymladd canser yw sgrinio ar lefel y boblogaeth. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog iechyd y cyhoedd ynghylch y newid i ddulliau gwell o sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Fodd bynnag, ni waeth sut y byddwn yn gwella’r technegau sgrinio, ein brwydr fwyaf yw argyhoeddi’r cyhoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wrthdroi’r duedd ar i lawr mewn sgrinio ceg y groth a chynyddu’r nifer sy’n cael eu sgrinio am ganser y coluddyn?