Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog yn arwain ar ein rhaglenni sgrinio iechyd y boblogaeth fel rhan o’i chyfrifoldebau iechyd cyhoeddus. Rydym ninnau hefyd yn pryderu am y ffigurau sy’n cadarnhau bod cyfraddau sgrinio ceg y groth wedi gostwng, ac rydym yn disgwyl gweld mwy o wybodaeth gyhoeddus, a thrafodaethau hefyd rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion ynghylch y budd gwirioneddol a geir o sgrinio ystod o wahanol gyflyrau posibl. Ar sgrinio’r coluddion, rwy’n meddwl y byddwn yn gweld y nifer sy’n manteisio ar y gwasanaeth yn cynyddu am fod y prawf yn haws i’w weinyddu. Heb fynd i fanylion ynglŷn â’r hen brawf a’r prawf mwy newydd, mae’n brawf sy’n haws ei weinyddu, ac rydym yn disgwyl y byddwn yn gweld cynnydd yn nifer y dynion, yn arbennig, a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio benodol honno.