Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 25 Ionawr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe sonioch am wneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy, y gwasanaeth meddygon teulu, a’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn wir. Yn amlwg, asgwrn cefn hynny yw cael meddygon ar lawr gwlad a all ddarparu’r gwasanaeth pan fo’i angen. Mewn ateb blaenorol a roesoch i Nathan Gill, clywais am yr yswiriant, ac yswiriant indemniad yn benodol, ar gyfer meddygon sy’n dod at ddiwedd eu gyrfa a allai fod eisiau gweithio’n rhan-amser ac a allai gynnig y gwasanaeth hwn yn ôl i’r GIG, a thrwy hynny leddfu peth o’r pwysau ar staff. A ydych yn mynd i gyflwyno cynllun yswiriant indemniad cenedlaethol, fel sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r DU y telir amdano o gronfa risg y GIG? Byddai hyn yn mynd yn bell tuag at allu manteisio mewn gwirionedd ar adnodd enfawr meddygon wedi ymddeol a fuasai’n dymuno parhau i ymarfer, ond nad yw’n ymarferol yn ariannol iddynt wneud hynny oherwydd y gost sy’n eu hwynebu wrth yswirio eu hunain.