Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 25 Ionawr 2017.
Nodais yn gynharach, fel y byddwch wedi clywed yn fy ymateb i Nathan Gill, ein bod wrthi’n trafod gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â cheisio datrys mater indemniad. Mae’n destun pryder arbennig iddynt hwy ac i gymuned y meddygon teulu yn ei chyfanrwydd. Nid mater sy’n ymwneud â diwedd gyrfa ydyw ychwaith—mae’n rhywbeth sy’n rhedeg ar hyd gyrfa meddyg teulu, wrth i gostau indemniad godi. Nid wyf yn mynd i oedi’r trafodaethau hynny drwy geisio siarad hanner ffordd drwyddynt am yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael. Ond rydym yn ystyried ystod o opsiynau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac fel y dywedais, dros y misoedd nesaf, rwy’n obeithiol y byddwn yn gallu cyflwyno cynnig priodol y byddwn wedi gweithio drwyddo mewn partneriaeth â Chymdeithas Feddygol Prydain. Unwaith eto, dyna’r pwynt—rydym am weithio mewn partneriaeth â’n meddygon teulu a gweddill y gymuned gofal iechyd.