<p>Damweiniau ac Achosion Brys (Derbyn Pobl i’r Ysbyty)</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:56, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i ganmol y gwasanaeth atal cwympiadau sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae’r gwasanaeth hwn a lansiwyd fis Hydref wedi helpu 183 allan o 229 o alwadau brys i godi’n ôl ar eu traed heb orfod eu cludo i adran ddamweiniau ac achosion brys. Nid yn unig y mae hyn yn atal derbyniadau i ysbytai, ond mae’r tîm hefyd yn cynnal asesiad cartref i atal cwympiadau pellach yn y dyfodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadw llygad barcud ar y dystiolaeth a chanlyniadau’r cynllun peilot yng Ngwent? Beth arall y gellir ei wneud i atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl cael codwm pan fo camau eraill yn fwy priodol?