Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwy’n croesawu hynny, ond mae alcohol ym mhobman yn ein cymdeithas—caiff ei bortreadu mewn modd atyniadol ar y teledu, caiff ei hyrwyddo fel rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei gael er mwyn ymlacio, neu hyd yn oed i gymdeithasu. Caiff ei hysbysebu mewn digwyddiadau chwaraeon, ar hysbysfyrddau, mewn arosfannau bysiau a chylchgronau. Gan gadw hynny mewn cof, nid yw’n syndod, yn seiliedig ar werthiannau alcohol, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi bod 75 y cant o boblogaeth Cymru yn yfed mwy na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ddiogel. Deallaf fod y Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiwethaf yn gobeithio cyflwyno isafswm pris yr uned ar alcohol fel ffordd o helpu i leihau’r defnydd o alcohol yng Nghymru, ond rwy’n deall efallai nad oes gennym bŵer i ddeddfu yn awr o dan y model cadw pwerau newydd. Felly, fy nghwestiwn, yn gyntaf oll, yw hwn: a oes gennym bŵer i ddeddfu? Os nad oes gennym bŵer i ddeddfu, pa ffyrdd eraill yr ydym yn eu cynllunio i helpu i leihau dibyniaeth ar alcohol a chamddefnyddio alcohol hyd yn oed ymhellach?