Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch am y cwestiwn. Ar hyn o bryd, o dan ein setliad presennol, mae gennym bŵer i ddeddfu, ond yn anffodus, er gwaethaf nifer o ddadleuon a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU, dyma un o’r pwerau y maent wedi ceisio’i dynnu oddi wrth y Cynulliad ar gyfer y dyfodol—ond rydym yn bendant yn cefnogi’r syniad o gyflwyno isafswm pris yr uned fel dull ychwanegol o leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac rydym wrthi’n ystyried yr angen i gyflwyno deddfwriaeth ar y mater hwn. Mae’n rhan o gyfres ehangach o gamau yr ydym yn eu rhoi ar waith. Er enghraifft, mae ein byrddau cynllunio ardal yn gwneud gwaith gwych yn lleol, ac yn y Drenewydd, yn eich ardal chi, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae mynd i’r afael ag yfed dan oed yn bwysig—ac rydym wedi buddsoddi yno drwy gefnogi datblygiad partneriaeth alcohol gymunedol, sy’n dwyn ynghyd rhanddeiliaid lleol, safonau masnach, yr heddlu, ysgolion a manwerthwyr alcohol, i gynorthwyo pobl ifanc yn benodol i osgoi cael perthynas niweidiol ag alcohol.