Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 25 Ionawr 2017.
Wel, mae gweithio mewn partneriaeth, fel y disgrifiwch, yn gwbl hanfodol, gan fod cymaint o bartïon yn rhan o’r broses o helpu pobl sydd eisoes â pherthynas afiach ag alcohol i roi’r gorau i yfed, ond hefyd i hybu yfed cyfrifol hefyd. Mae’r bartneriaeth alcohol gymunedol yr wyf newydd ei disgrifio i Joyce Watson, yn un enghraifft o sut y gwnawn hynny. Ym mis Rhagfyr hefyd, cyhoeddais ein fframwaith economi’r nos newydd ar gyfer Cymru, a diben hwnnw mewn gwirionedd yw darparu strwythur ar gyfer yr holl randdeiliaid allweddol er mwyn helpu i ddatblygu a chadw economïau nos cynaliadwy, iach a diogel ledled Cymru. Ac unwaith eto, mae hynny’n ymwneud â dod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn.