<p>Camddefnyddio Alcohol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 25 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:04, 25 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, efallai eich bod yn gwybod am brosiect Cymunedau gyda’i Gilydd Alcohol Concern yng ngogledd Sir Benfro, a fydd yn cynnal cynhadledd ym mis Mawrth i ddysgu mwy ynglŷn â sut y gall cymunedau lleol leihau niwed alcohol mewn gwirionedd, a sut y gallwn ddatblygu perthynas iachach ag alcohol. A ydych yn cytuno fod prosiectau fel hyn yn ffordd wych o hyrwyddo byw’n iach, ac a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i hyrwyddo ac annog y mathau hyn o brosiectau ledled Cymru?