Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru’n gwario llawer mwy ar iechyd fesul y pen nag y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi arwain at ganlyniadau sy’n sylweddol well. Yn gyffredinol, mae cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy am driniaeth na chleifion yn Lloegr—ddwywaith mor hir am lawdriniaeth cataract a bron dair gwaith mor hir am lawdriniaeth ar y glun. A allwch egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, pam nad ydym mor effeithlon mewn perthynas â gwariant ar iechyd?