Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 25 Ionawr 2017.
Mewn adroddiad ym mis Ionawr 2015 ar amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol, siaradodd Archwilydd Cyffredinol Cymru am egwyddor Pareto, sy’n cyfrifo nifer y diwrnodau gwely a ddefnyddir gan gleifion unigol, a darganfu fod 5 y cant o gleifion yn defnyddio 51 y cant o’r diwrnodau gwely, a darganfu hefyd nad oedd y cyfrifiad hwnnw’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan fyrddau iechyd yn gyffredinol. Tybed pa gasgliad y daw Ysgrifennydd y Cabinet iddo o ran hynny ac a yw’n teimlo y byddai’r egwyddor honno yn un bwysig i fyrddau iechyd ei hystyried.