Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 25 Ionawr 2017.
Ddoe, soniodd Gofal a Thrwsio wrthyf am eu cynllun cartrefi cynnes ar bresgripsiwn, sy’n defnyddio gwybodaeth leol gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i helpu i nodi pa bobl sydd mewn perygl o ddirywiad yn eu hiechyd am nad yw eu cartrefi wedi’u gwresogi’n ddigonol, ac yna maent yn ymyrryd i helpu gyda gwresogi mwy effeithlon. Os yw’n gweithio, bydd yn lleihau nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty, a fydd yn cynnwys gofal dewisol ar gyfer cyflyrau cronig penodol, ac yn lleihau nifer y bobl sy’n wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal hefyd wrth gwrs. Nawr, caiff y cynllun ei ariannu o gyllideb tai Llywodraeth Cymru ac mae’n enghraifft dda o gyllideb nad yw’n gyllideb iechyd yn cael ei defnyddio i ddatrys problem iechyd. Os yw’n llwyddiannus, a fydd yn parhau i gael ei ariannu o’r gyllideb iechyd neu a fydd y math hwn o ysbryd cyllidebu trawsbortffolio yn cael ei brofi dros lawer os yw’r cynllun peilot hwn yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod prawf y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer yn awr?