Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 25 Ionawr 2017.
Rwyf wedi gweld yn fy ardal fy hun yn ne-ddwyrain Cymru mewn sawl cymuned yn y Cymoedd fod Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi cyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol i wella argaeledd ac i ddenu pobl i’r ardaloedd hynny, am rai blynyddoedd o bosibl yn hytrach nag ar gyfer eu gyrfaoedd ar eu hyd. A yw hyn yn rhywbeth y mae’r Ysgrifennydd Iechyd yn ystyried ei ddefnyddio ar sail achosion unigol mewn rhyw fodd, neu a yw’n bolisi gan y Llywodraeth i geisio symud y ddarpariaeth dros gyfnod o amser a chynyddu’r gyfran o feddygon teulu a gyflogir yn uniongyrchol o gymharu ag ymarferwyr annibynnol?