Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 25 Ionawr 2017.
Fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio â naill ai HIV neu hepatitis C o ganlyniad i gynhyrchion gwaed halogedig, a ddaeth iddynt fel triniaeth, ac fel y nododd Hefin David, fel plant ifanc ar sawl achlysur. Yn anffodus, mae llawer o’r rhai a heintiwyd wedi marw. Nid yw poen y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid wedi diflannu, na’r stigma na dioddefaint y rhai sy’n dal i fyw gyda salwch wrth iddynt barhau i wynebu heriau’r bywydau sydd o’u blaenau.
Fel y nodwyd, yn ystod y 1970au a’r 1980au, yn ymchwiliad yr Arglwydd Archer o Sandwell, a oedd yn ymchwiliad annibynnol—. Fel y dywedodd, roedd yr Adran Iechyd yn ffafrio buddiannau masnachol a chostau ar draul diogelwch y cyhoedd, ac roedd y DU yn araf i ymateb i beryglon HIV a hepatitis C. Roedd hefyd yn araf i ddod yn hunangynhaliol mewn gwaed a chynhyrchion gwaed, gan ddibynnu i raddau helaeth ar brynu’r cynhyrchion hynny i mewn, yn enwedig o America. Rydym i gyd yn deall bod gwaed yn cael ei gasglu yn America, wrth gwrs, drwy daliad ariannol am roi gwaed ar lawer o achlysuron—nid oedd pethau fel y maent heddiw.
Ddirprwy Lywydd, fel sydd eisoes wedi’i nodi, rwyf am dynnu sylw at yr effaith ar un o fy etholwyr i, David Farrugia. Derbyniodd ei dad, Barry, a dau ewythr, y ffactor VIII halogedig a ddefnyddid i drin hemoffilia. Canlyniadau hyn oedd bod ei dad ac un o’r ewythrod wedi dod yn HIV positif ac yn dilyn hynny aethant ymlaen i ddatblygu AIDS, a chafodd yr ewythr arall ei heintio â hepatitis C. Ar wahanol adegau, yn anffodus, bu’r tri farw—rhwng 1986 a 2012.
Fodd bynnag, y boen a’r stigma a brofodd y teulu ac y maent yn parhau i’w brofi—maent yn parhau i ddioddef heddiw, er bod eu hanwyliaid wedi marw. Ddyddiau ar ôl marwolaeth eu tad, gwahanwyd meibion Mr Farrugia a chafodd dau ohonynt—efeilliaid—eu hanfon i gartrefi gofal 100 milltir oddi wrth ei gilydd. Ond cyn y gellid eu derbyn, mynnodd y cartrefi gofal eu bod yn cael prawf gwaed i sicrhau nad oeddent wedi’u halogi. Nawr, mae hynny’n rhywbeth sy’n annerbyniol. Pa effaith a gaiff hynny ar unrhyw un sy’n mynd yno, heb sôn am blentyn sydd newydd golli ei riant? Mae’n ymddygiad annerbyniol gan y sector cyhoeddus.
Roedd pedwar brawd i gyd, ac ni chawsant eu haduno eto am dros 20 mlynedd. Dyna yw effaith emosiynol a seicolegol marwolaeth rhywun annwyl o gynhyrchion gwaed halogedig, ac mae gwir angen rhoi sylw i’r hyn a ddigwyddodd iddynt ar ôl hynny.
Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant personol, gan fod gennyf nai sy’n dioddef o hemoffilia mewn gwirionedd, a chafodd ei heintio gan waed halogedig yn yr Unol Daleithiau. Mae’n ddinesydd Americanaidd, felly ni fydd unrhyw beth a wnawn yma heddiw yn effeithio arno. Ond mae’r heriau y mae’n eu hwynebu, ac y mae wedi eu hwynebu, yn parhau, a’r un heriau ydynt ag sy’n wynebu pobl yng Nghymru heddiw.
Yn yr Unol Daleithiau, rhoddwyd camau ffederal ar waith i gefnogi’r rhai a heintiwyd gan waed halogedig. Dylid rhoi camau tebyg ar waith ar draws y DU gyfan. Rwy’n pryderu nad yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn ystyried ymchwiliad i’r defnydd o waed a chynhyrchion gwaed halogedig. A dweud y gwir, ysgrifennodd Gweinidog iechyd cyhoeddus y DU ar y pryd, Jane Ellison, at fy nghyd-Aelod, yr AS dros Aberafan, Stephen Kinnock, ym mis Ionawr 2016, yn datgan:
Ni fuasai ymchwiliad arall er budd gorau dioddefwyr a’u teuluoedd gan y byddai’n gostus ac yn arwain at oedi rhag gweithredu ymhellach i roi sylw i’w pryderon ac yn peri oedi sylweddol i gynlluniau i ddiwygio cynlluniau cymorth taliadau presennol.
Nid yw hynny’n ddigon da. Mae’r teuluoedd a’r dioddefwyr hyn am gael atebion ynglŷn â sut y cawsant hwy a’u hanwyliaid eu heintio. Mae’n ddrwg gennyf, ond mae ystyried na fuasai’n effeithio arnynt yn annerbyniol i unrhyw wleidydd sy’n pryderu go iawn am fywydau’r unigolion a’r bobl yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol i roi atebion iddynt, ac mae’n rhaid iddi gyflawni ei rhwymedigaeth i ddarparu cymorth, gan gynnwys iawndal i’r rhai a heintiwyd a’u teuluoedd. Mae yna faterion allweddol sy’n rhaid i’r Adran Iechyd fynd i’r afael â hwy yn ymwneud ag atebolrwydd a chysondeb cynlluniau cymorth ar draws y pedair gwlad. A chlywyd eisoes—credaf fod Mark Isherwood wedi nodi’r cynlluniau ar draws y DU yn eithaf clir—ac rwy’n credu bod gofyniad i gael mwy o sicrwydd i bobl yma yng Nghymru.
Efallai y dylai’r sicrwydd gofynnol fod yn unol â’r taliadau argymelledig a nodwyd gan ymchwiliad Archer, sydd eisoes wedi cael eu rhoi ar waith yn ne Iwerddon. A system yr Alban a gyflwynwyd i siarad am gynorthwyo gweddwon—efallai y gallem ni yng Nghymru fynd gam ymhellach, a chefnogi teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, oherwydd mae yna blant sy’n ddibynyddion i unigolion a fu farw. Rydym wedi gweld teuluoedd yn chwalu o ganlyniad i waed halogedig a’r heintiau a grëwyd o’i herwydd. Beth sy’n digwydd i blant y teuluoedd hynny? Efallai y gallem fynd ymhellach na chymorth unigol yn unig, a chymorth i weddwon, a helpu’r teuluoedd yn ogystal. Ymddengys bod y system gyfan wedi’i llunio i wneud i chi deimlo fel cardotyn. Nid yw’n dderbyniol—ni ddylai neb orfod ymbil i gael cymorth y dylem ni fel Llywodraethau fod yn ei ddarparu ar eu cyfer heb gymhlethdod, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ddwyn hyn i sylw Llywodraeth y DU fel mater o bwys a brys.