Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 25 Ionawr 2017.
Hoffwn ddiolch i Julie, Dai, Rhun, Mark, Hefin a Jenny am gyflwyno’r ddadl hon gan Aelodau unigol ac am roi’r cyfle i bawb ohonom drafod y pwnc pwysig hwn. Mae’r sgandal gwaed halogedig yn un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith fod pobl a ofynnodd am gymorth gan y gwasanaeth iechyd yn agored i firysau marwol yn frawychus ddigon, ond mae’r ffaith eu bod wedi methu cael esboniad priodol ynglŷn â sut y caniatawyd i hyn ddigwydd yn anfaddeuol. Ymddiheurodd Llywodraeth flaenorol y DU i gleifion a heintiwyd gan waed halogedig a’u teuluoedd, ond gwrthodwyd rhoi ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol iddynt er hynny.
Mae Llywodraethau olynol wedi methu mynd i’r afael â phryderon dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig yn llwyr. Mewn cymhariaeth, yn dilyn pwysau gan bwyllgor iechyd Senedd yr Alban, gorchmynnodd y Llywodraeth SNP a oedd newydd ei hethol yn 2008 y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r modd y cafodd pobl eu heintio â hepatitis C a HIV a ddaliwyd yn sgil triniaeth y GIG. Dechreuodd yr ymchwiliad yn 2009 a chyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2015. Mae’r adroddiad yn bum cyfrol a thros 1,800 o dudalennau o hyd, ac mae’n ystyried y ffordd y câi anhwylderau gwaedu a thrallwysiadau gwaed eu trin yn yr Alban rhwng 1974 a 1991.
Nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai. Mae arnom angen ymchwiliad llawn, annibynnol yn cwmpasu’r defnydd o waed a chynhyrchion gwaed yn y GIG yng Nghymru. Mae 70 o bobl wedi marw yng Nghymru o ganlyniad i’r sgandal gwaed halogedig ac mae nifer o bobl eraill yn byw gyda chlefydau a gawsant o ganlyniad i’w triniaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod faint o bobl eraill sydd wedi cael triniaeth, wedi dal haint, ond sy’n parhau i fod heb gael diagnosis. Argymhellodd yr ymchwiliad yn yr Alban y dylai pawb a gafodd drallwysiad gwaed cyn mis Medi 1991 gael prawf hepatitis C. Dyna ddiben ymchwiliadau o’r fath: sefydlu’r ffeithiau, gwneud argymhellion a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu fel nad ydym yn gwneud yr un camgymeriadau eto.
Mae angen i ni sefydlu’r ffeithiau am yr hyn a ddigwyddodd yn ein gwasanaeth iechyd yn ystod y 1970au, y 1980au a’r 1990au. Mae’r teuluoedd hyn yn haeddu esboniad. Sut y cafodd cwmni fferyllol mawr Americanaidd ganiatâd i gasglu gwaed gan garcharorion yn America ac o’r trydydd byd heb gynnal profion ar unrhyw un o’r rhoddwyr? Sut y cafodd y cynhyrchion a gynhyrchwyd o’r gwaed hwn eu trwyddedu? A oedd cynnyrch a gynhyrchwyd gan y cwmni hwn yn dal i gael eu defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru ar ôl iddynt gael eu tynnu’n ôl yn yr Unol Daleithiau? A ydym wedi dysgu unrhyw beth o’r cyfnod tywyll hwn yn hanes y GIG, ac a ydym yn sicr na allai rhywbeth fel hyn byth ddigwydd eto? Ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all ateb y cwestiynau hyn. Ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all ddarparu atebion i ddioddefwyr y sgandal hon. Ac ymchwiliad cyhoeddus llawn, annibynnol yn unig a all gau’r drws ar hyn o ran y rhai sydd, yn anffodus, wedi marw o ganlyniad i gael y gwaed halogedig hwn, a’u teuluoedd. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i wneud y peth iawn a gorchymyn ymchwiliad o’r fath tra bo llawer o’r dioddefwyr yn dal i fod gyda ni. Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.