Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 25 Ionawr 2017.
Hoffwn ddechrau heddiw drwy ddiolch i’r Aelodau y mae’r cynnig hwn yn ymddangos yn eu henwau ar yr agenda heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, lle y mae gennym gyfle i alw am iawndal i’r rhai y mae eu bywydau wedi’u cyffwrdd gan y drychineb gwaed halogedig. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar hanes dau o fy etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon. Daw’r stori gyntaf gan etholwr sydd, yn ddealladwy, yn dymuno aros yn ddienw. Mae’n dweud hyn:
Roeddwn yn 17 oed ac yn barod i ddechrau ar fy mywyd pan ddywedodd fy meddyg Hemoffilia wrthyf fod gennyf HIV, a dywedwyd wrthyf am beidio â dweud wrth neb, yn cynnwys fy mam hyd yn oed. Dywedwyd wrthyf y buaswn yn byw am oddeutu 18 mis. Roeddwn wedi gweld dioddefwyr AIDS ar y teledu ac felly roeddwn yn meddwl y buaswn yn marw yn yr un ffordd. Roedd hon yn ddedfryd o farwolaeth, rhyddheais fy hun o’r ysbyty a dechrau cymryd tabledi cysgu, gan nad oeddwn yn meddwl am realiti’r hyn oedd yn digwydd pan oeddwn yn cysgu. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf cymerais fwy a mwy o dabledi cysgu, morffin a phethidin, unrhyw beth mewn gwirionedd i rewi’r effaith ac atal yr artaith feddyliol. Buaswn yn cymryd 5 neu 6 ar y tro, hyd at 90 yr wythnos. Cefais chwalfa nerfol a chefais fy nerbyn i ysbyty meddwl yr Eglwys Newydd a cheisiais roi’r gorau i’r arfer. Am flynyddoedd treuliais gyfnodau i mewn ac allan o’r ysbyty lle y gwelais bobl hemoffilig eraill yr oeddwn yn eu hadnabod yn marw o AIDS. Un dioddefwr o’r fath oedd Mathew, dyn ifanc a oedd ychydig o flynyddoedd yn iau na mi ac roedd ganddo dipyn o feddwl ohonof. Roedd ar fin marw, a gofynnodd y meddygon hemoffilia i mi aros yn yr ysbyty am ychydig ddyddiau’n hwy tan y byddai farw. Roeddwn wedi mynd yn gaeth i dabledi cysgu a thabledi lladd poen a stopiodd fy meddyg y cyfan un diwrnod. Roeddwn yn dringo’r waliau gan na chefais unrhyw help, a thorrais i mewn i’r fferyllfa leol i geisio cael tabledi i rewi’r boen. Ceisiais ladd fy hun sawl gwaith, ac roedd fy mam yn dyst i hyn i gyd.
Yn 1994 dywedwyd wrthyf fy mod wedi fy heintio â hepatitis C hefyd. Cefais sawl triniaeth gyda sgîl-effeithiau ofnadwy ac yn y pen draw cefais wared ar y firws 3 blynedd yn ôl. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi cael sirosis oherwydd hepatitis C ond gwrthodwyd taliadau parhaus cam 2 o Gronfa Skipton i mi. Ar hyd fy oes nid wyf wedi gallu cael yswiriant bywyd neu ddiogelu morgais oherwydd HIV a hepatitis C. Rwy’n byw o ddydd i ddydd. Cyfarfûm â fy ngwraig dros 20 mlynedd yn ôl, a buasem yn hoffi cael rhywfaint o gydnabyddiaeth o’r hyn sydd wedi digwydd i mi a sut y mae fy mywyd wedi cael ei ddifetha. Hoffem gymorth ariannol i gynnig rhywfaint o sicrwydd i ni. Yn lle hynny mae’n rhaid i ni wneud ceisiadau am gymorth sy’n dibynnu ar brawf modd, ac fel arfer, mae’r ceisiadau’n cael eu gwrthod.
Daw’r ail stori gan fy etholwr, Jeff Meaden, sydd wedi bod yn gohebu â mi ers rhai misoedd. Mae Jeff yn ysgrifennu’n deimladwy am ei wraig annwyl, Pat. Bu farw Patricia Meaden o ganser yr afu a methiant yr afu ym mis Ionawr 2014. Heintiwyd Pat â hepatitis C drwy driniaeth a gafodd at anhwylder ceulo gwaed. Roedd yn sâl am y rhan fwyaf o 2013, ond ni chafodd ei hatgyfeirio i gael trawsblaniad afu a datblygodd ganser yr iau. Dywed ei gŵr gweddw, Jeff:
Roeddem yn byw ar yr un stryd yn blant a byddem yn chwarae gyda’n gilydd yn blant. Dechreuasom ganlyn pan oeddem yn 14. Roedd ei marwolaeth mor ddiangen, rwy’n torri fy nghalon. Byddai fy ngwraig wedi bod yn fyw oni bai am hepatitis C. Mae wedi difetha ein bywydau ac nid oes neb yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am hynny.
Mae straeon fy etholwr dienw a Pat Meaden yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd y mae bywydau wedi cael eu newid o ganlyniad i’r sgandal gwaed halogedig: yr effaith seicolegol; caethiwed i feddyginiaeth; ceisio cyflawni hunanladdiad; gwrthod yswiriant bywyd neu ddiogelu morgais; ansicrwydd ariannol; a marwolaeth. Ond mae eu straeon hefyd yn tynnu sylw at y ffordd y mae’r sgandal gwaed halogedig wedi effeithio ar y rhai o’u cwmpas ac rwy’n falch fod yr agwedd hon hefyd wedi cael sylw yn y cynnig heddiw. Ni phetrusaf ddim rhag cefnogi’r cynnig hwn heddiw a’i alwad am gyfiawnder. Diolch.