Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 25 Ionawr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ein bod yn cyflwyno’r cynnig hwn mewn ysbryd adeiladol? Rydym yn awyddus i archwilio lle ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn ein bywyd cenedlaethol, yn enwedig fel sbardun ar gyfer twf a rhywbeth a ddylai fod wrth wraidd ein huchelgais ar gyfer Cymru ffyniannus a mwy cynaliadwy yn y dyfodol. A gaf fi ddweud ein bod yn derbyn gwelliant y Llywodraeth, sy’n ychwanegu at ein cynnig, a’n bod yn hapus i dderbyn hynny?