Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 25 Ionawr 2017.
Disgwylir i boblogaeth Cymru gynyddu’n ddramatig dros y degawd nesaf, a disgwylir y bydd nifer y bobl hŷn dros 85 oed yn dyblu. Rhaid i addasrwydd ac ymarferoldeb ein dylunio trefol, ein tai a chysylltiadau trafnidiaeth ein trefi a’n dinasoedd i gyd-fynd â’r angen demograffig hwn barhau i esblygu yn unol ag angen cynyddol a disgwyliadau mwy. Mae Age Cymru wedi tynnu sylw at y gofyniad i adeiladau cyhoeddus gydymffurfio ag ystyriaethau mynediad penodol, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ag anghenion anabledd neu nam ar y synhwyrau. Mae demograffeg ein poblogaeth sy’n heneiddio yn newid yn gyflym a rhaid i’r Llywodraeth symud ar gyflymder tebyg.
Er mwyn ymdopi â’r cynnydd yn y tagfeydd a mwy o gymudwyr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo cerdded a beicio yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn technolegau newydd â breichiau agored a buddsoddi yn nyfodol seilwaith trafnidiaeth modern ar raddfa Cymru gyfan, nid yng Nghaerdydd yn unig. Galluogydd hanfodol i lawer o’n poblogaeth hŷn yw mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gadarn a dibynadwy sy’n darparu cysylltiadau rhwng ein cymunedau gwledig, ein hardaloedd trefol a gwasanaethau cyhoeddus: ysbytai, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a siopau. Mae trafnidiaeth sy’n effeithiol ac yn hygyrch i bawb yn hanfodol i ddileu effaith arwahanrwydd, unigrwydd ac anobaith.
Rhaid gwrthsefyll yr argyfwng tai os yw Cymru i ymdopi â galw poblogaeth yn ein dinasoedd, ond hefyd yn ein trefi. Ar ben hynny, rhaid rhoi mesurau ar waith i warantu bod yr holl brosiectau tai newydd yn defnyddio ynni’n effeithlon ac wedi’u haddasu i anghenion y demograffig lleol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei chynllunio i sicrhau agenda newid newydd a chyffrous. Felly, mae angen cynlluniau arnom sy’n gwella effeithlonrwydd ynni ein tai presennol. Mae angen mesurau arnom i leihau cyfraddau presennol o dlodi tanwydd. Mae’r cartref cyfartalog yng Nghymru ym mand D y dystysgrif perfformiad ynni, nad yw’n ddigon uchel i ddiogelu aelwydydd rhag tlodi tanwydd. Yma yng Nghymru, amcangyfrifwyd bod 23 y cant o gartrefi—sef 291,000 o gartrefi—mewn tlodi tanwydd yn 2016, a llawer o hyn yng Nghaerdydd. Mae hynny’n fwy na dwywaith y ganran yn Lloegr. Dylid defnyddio Deddf cenedlaethau’r dyfodol fel dull o weithio ochr yn ochr â Nyth i gynnig cymorth i fentrau Llywodraeth y DU sydd wedi llwyddo i leihau tlodi ynni, megis y rhwymedigaeth cwmnïau ynni, ECO. Felly, dylai unrhyw eiddo newydd yn ein dinasoedd—yng Nghaerdydd neu rywle arall—fod wedi’i ddiogelu rhag tlodi tanwydd mewn gwirionedd.
Yn 2013, cyhoeddodd y Ceidwadwyr gynllun sy’n darparu rhwymedigaethau ar gyflenwyr ynni i ddarparu mesurau arbed ynni i gartrefi ledled y DU. Mae hyn yn bwysig er mwyn ein helpu i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o’r sector preswyl yng Nghymru—chwarter ein targed gostyngiadau blynyddol o 3 y cant. Yr wythnos hon, rwyf wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar lygredd aer ac unwaith eto, i’n trefi a’n dinasoedd mae’n hanfodol, wrth i ni dyfu, nad ydym yn tyfu’r llygredd a ddaw yn eu sgil.
Rwy’n croesawu darpariaethau Bil Cymru, a fydd yn rhoi cyfle i’r Cynulliad ddatblygu cynllun tariff cyflenwi trydan penodol i Gymru i gefnogi’r gwaith o osod paneli solar. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio yn erbyn gorddibyniaeth ar ynni gwynt, ac rydym yn llwyr groesawu canfyddiadau adolygiad Hendry yn ei gefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw yng ngogledd a de Cymru. Bydd ein dinasoedd a’n hardaloedd trefol yn rhai o’r sbardunau allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer hirhoedledd a lles ein demograffig unigryw yma yng Nghymru.
Wrth groesawu statws dinas yn benodol, hoffwn ychwanegu Llanelwy yng ngogledd Cymru, y dref fach a ddaeth yn ddinas. Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) y tymor diwethaf, rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom fel gwleidyddion i beidio â cheisio dyblygu deddfwriaeth neu gymhlethu amcanion y Ddeddf hon ymhellach. Bydd dehongli a gweithredu nodau’r Ddeddf hon yn llawn, a darparu adnoddau digonol ar eu cyfer gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn symud Cymru ymlaen gyda chamau breision yn fy marn i. Bydd hynny’n digwydd yn ein hardaloedd trefol, ein hardaloedd gwledig ac yn sicr yn ein dinasoedd. Diolch.