<p>Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 31 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 1:36, 31 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch, Lywydd, am eich eglurhad. Felly, mae gennym ni gyfle i ddod ag ef yn ôl, mae'n ymddangos. Ond mae gormod o gyn-filwyr yn ei chael hi’n anodd o ran gofal iechyd, yn ei chael hi’n anodd o ran tai, ac yn arbennig, fel y dywedodd y cyd-Aelod ar draws y Siambr, o ran gofal iechyd meddwl. Nid oes rhaid i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i gyn-filwyr. Nawr, y gwir amdani yw nad ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad, ac ni ddylem fod yn eu gadael ar ôl ar ôl iddyn nhw ddod adref. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth gefnogi Bil, deddfwriaeth, i sicrhau nad yw’r hyn y mae llawer o bobl yn ei ddioddef ar hyn o bryd yn digwydd mwyach, a’n bod yn gwneud gwahaniaeth ac yn cyflawni newid i fywydau’r bobl hyn?