Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 31 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, canfu adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru bod cyn-filwyr yn aros hyd at 80 diwrnod am asesiad cychwynnol, a hyd at 140 diwrnod ar ôl yr asesiad. Tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at y ffaith y byddai'r gwasanaeth yn wynebu pwysau ychwanegol, o ganlyniad i adolygiad amddiffyn a diogelwch y DU. Gwnaed cyfanswm o 15 o argymhellion o ganlyniad i'r adolygiad. Brif Weinidog, a allwch chi ein diweddaru ar y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol o ran rhoi’r argymhellion ar waith, lleihau amseroedd aros i gyn-filwyr a sicrhau y gall y gwasanaeth ymateb i alw yn y dyfodol?