Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 31 Ionawr 2017.
[Anghlywadwy.]—y teimladau hynny. Rydym ni, pob un ohonom ni yn y Siambr hon, yn ddisgynyddion mewnfudwyr—mater o bryd y daeth ein teuluoedd i’r ynys hon yw hi. Mae llawer mwy yn ein huno fel bodau dynol nag all o bosibl ein hymrannu. Ac rwy’n rhannu'r farn bod y drafodaeth bresennol mewn mwy nag un wlad o gwmpas y byd yn ymwneud â mudo yn wenwynig. Mae'n eironig fod y drafodaeth weithiau ar ei mwyaf gwenwynig mewn gwledydd sy’n llawn mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf, neu ail a thrydedd genhedlaeth. Dyna eironi hyn. Ond y gwir amdani yw ein bod ni’n gwybod pan ganiateir i genedlaetholdeb, yn nhermau cenedlaetholdeb asgell dde eithafol, gymryd gafael, fel y gwelsom yn y 1930au, trychineb yw’r canlyniad.